Prosesu cyfreithlon
Bydd gwybodaeth bersonol ond yn cael ei phrosesu pan fydd sail gyfreithiol yn caniatáu am hynny. Mae chwe sail gyfreithlon bosibl ar gyfer prosesu. .
Rydym yn prosesu eich gwybodaeth yn gyfreithlon yn unol ag un neu fwy o’r canlynol:
(a) Gyda’ch caniatâd chi,
(b) Yn angenrheidiol i gyflawni Contract,
(c) Yn angenrheidiol i gydymffurfio â’r gyfraith: Ymrwymiad cyfreithiol,
(d) Buddiannau hanfodol: mae’r prosesu’n angenrheidiol er mwyn diogelu bywyd rhywun,
(e) Tasg gyhoeddus: mae’r prosesu’n angenrheidiol i gyflawni tasg er lles y cyhoedd neu er mwyn arfer awdurdod swyddogol,
(f) Buddiannau dilys: mae’r prosesu’n angenrheidiol er buddiannau dilys neu er buddiannau dilys trydydd parti, oni bai bod rheswm da dros ddiogelu data personol yr unigolyn sy’n trechu’r buddiannau dilys hynny. (Nid yw hyn yn berthnasol i awdurdod cyhoeddus sy’n prosesu data i gyflawni tasgau swyddogol.)
Rydym yn prosesu data categori arbennig yn unol ag un neu fwy o’r canlynol, fel y nodir yn y RhDDC.
(a) mae gwrthrych y data wedi rhoi caniatâd clir i brosesu’r data personol hwnnw at un neu fwy o ddibenion penodol, oni bai bod cyfraith yr Undeb neu’r Aelod-wladwriaeth yn datgan nad oes modd i wrthrych y data godi’r gwaharddiad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff 1.
(b) mae’r prosesu’n angenrheidiol i gyflawni’r rhwymedigaethau ac arfer hawliau penodol y rheolydd neu wrthrych y data ym maes cyflogaeth a nawdd cymdeithasol a chyfraith diogelu cymdeithasol, i’r graddau y caiff ei awdurdodi gan gyfraith yr Undeb neu’r Aelod-wladwriaeth, neu gan gydgytundeb yn unol â chyfraith yr Aelod-wladwriaeth sy’n gosod mesurau diogelu priodol ar gyfer hawliau sylfaenol a buddiannau gwrthrych y data;
(c) mae’r prosesu’n angenrheidiol i ddiogelu buddiannau hanfodol gwrthrych y data neu fod dynol arall, lle mae gwrthrych y data yn methu rhoi caniatâd yn gorfforol neu’n gyfreithiol;
(d) mae’r prosesu’n cael ei gynnal, yn ystod gweithgareddau dilys â mesurau diogelu priodol, gan sefydliad, cymdeithas neu unrhyw gorff nid er elw arall ag amcan gwleidyddol, athronyddol, crefyddol neu undeb llafur, ac ar yr amod bod y prosesu’n perthyn i aelodau neu gyn-aelodau’r corff yn unig, neu i bobl sydd â chysylltiad rheolaidd â’r corff mewn perthynas â’i ddibenion ac ni ddatgelir y data personol y tu allan i’r corff hwnnw heb ganiatâd gan wrthrychau’r data.
(e) mae’r prosesu’n ymwneud â data personol sy’n cael ei gyhoeddi’n amlwg gan wrthrych y data;
(f) mae’r prosesu’n angenrheidiol i sefydlu, arfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol neu pryd bynnag y mae llysoedd yn gweithredu eu swyddogaeth farnwrol;
(g) mae’r prosesu’n angenrheidiol am resymau sydd o fudd sylweddol i’r cyhoedd, ar sail cyfraith yr Undeb neu’r Aelod-wladwriaeth a fydd yn gymesur â’r amcan a geisir, yn parchu hanfod yr hawl i ddiogelu data ac yn gosod mesurau addas a phenodol i ddiogelu hawliau a buddiannau sylfaenol gwrthrych y data;
(h) mae’r prosesu’n angenrheidiol at ddibenion meddyginiaeth ataliol neu alwedigaethol, asesu gallu gweithiwr i weithio, diagnosis meddygol, darparu triniaeth neu ofal iechyd neu gymdeithasol, neu reoli systemau neu wasanaethau iechyd neu gymdeithasol ar sail cyfraith yr Undeb neu’r Aelod-wladwriaeth neu’n unol â chontract â gweithiwr iechyd proffesiynol ac yn amodol ar yr amodau a’r mesurau diogelu y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 3;
(i) mae’r prosesu’n angenrheidiol er budd y cyhoedd ym maes iechyd y cyhoedd, megis diogelu rhag bygythiadau trawsffiniol difrifol i iechyd neu sicrhau safonau uchel o ran ansawdd a diogelwch gofal iechyd a chynnyrch meddyginiaethol neu ddyfeisiau meddygol, ar sail cyfraith yr Undeb neu’r Ardal-wladwriaeth, sy’n gosod mesurau penodol i ddiogelu hawliau a rhyddid gwrthrych y data, yn arbennig o ran cyfrinachedd proffesiynol;
(j) mae’r prosesu’n angenrheidiol at ddibenion archifo er budd y cyhoedd, ymchwil gwyddonol neu hanesyddol neu at ddibenion ystadegol yn unol ag Erthygl 89(1) yn seiliedig ar gyfraith yr Undeb neu’r Aelod-wladwriaeth, gan barchu hanfod yr hawl i ddiogelu data a gosod mesurau addas a phenodol i ddiogelu hawliau sylfaenol a buddiannau gwrthrych y data.
Nodwch fod y Ddeddf Diogelu Data yn newid y rhain a dylid ei darllen ar y cyd.