Taliadau Estynedig
Mewn amgylchiadau penodol, bydd cymorth gyda’r dreth gyngor yn cael ei ehangu am gyfnod hyd at 4 wythnos lle bo cymhwyster i fudd-daliadau penodol yn dod i ben oherwydd:
- dechrau gwaith cyflogedig neu hunangyflogedig
- hawliwr yn cynyddu oriau gwaith i 16 awr neu fwy
- partner yn cynyddu oriau gwaith i 24 awr neu fwy
- cynyddu incwm i swm sy’n golygu nad yw'r unigolyn yn gymwys ar gyfer Cymhorthdal Incwm/Lwfans Ceisio Gwaith (yn seiliedig ar incwm)/Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (yn seiliedig ar incwm) /Lwfans Anabledd Difrifol/ Lwfans Cymorth Cyflogaeth (yn seiliedig ar gyfraniadau)
Y nod yw helpu i ysgogi pobl sy'n ddi-waith neu sydd â salwch neu anabledd hirdymor i geisio gwaith, ennill mwy o incwm neu weithio mwy o oriau. Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer taliadau estynedig:
- Rhaid i’r hawliwr gredu y bydd ei swydd neu'r oriau cynyddol yn para o leiaf pum wythnos
- Nid yw’r hawliwr neu ei bartner wedi bod yn gymwys ar gyfer Lwfans Cyflogaeth a Chymorth – yn seiliedig ar incwm (LCCh [SI]), Lwfans Ceisio Gwaith – yn seiliedig ar incwm (LCG [SI]), Lwfans Ceisio Gwaith – yn seiliedig ar gyfraniadau (LCG –C]) neu Gymhorthdal Incwm yn barhaus am o leiaf 26 wythnos (neu unrhyw gyfuniad o’r rhain)
Cyn dechrau gwaith mae’n rhaid i’r cwsmer neu bartner fod wedi bod yn derbyn LCCh (SI), LCG (SI) neu Gymhorthdal Incwm.
Mae’r hawliwr neu’r partner wedi bod yn gymwys ar gyfer Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (yn seiliedig ar gyfraniadau), Budd-dal Analluogrwydd neu Lwfans Anabledd Difrifol ac unwaith eto mae disgwyl i’r swydd neu’r oriau cynyddol bara am 5 wythnos neu fwy ac maent wedi bod yn gymwys ar gyfer y budd-dal uchod yn barhaus am 26 wythnos.
Yn y ddau achos mae’n rhaid i’r budd-dal ddod i ben gan eu bod wedi dechrau gweithio neu gynyddu eu horiau.
Bydd y Cyngor yn parhau i ganiatáu taliadau estynedig hyd at uchafswm o 4 wythnos oherwydd mae hyn yn ysgogi pobl i weithio neu i geisio mwy o oriau a bydd unrhyw hawliwr sy’n symud i fyd cyflogaeth yn debygol o dderbyn ei daliad cyntaf gan ei gyflogwr newydd o fewn y terfyn amser.