Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Bydd angen i chi gael profiad o gwblhau asesiadau dadansoddol o ansawdd uchel sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Gallai'r rhain gynnwys, Ffurflen F Corambaaf, Personau Cysylltiedig, Ymarferoldeb a/neu Asesiadau Rhianta. Bydd gofyn i chi, os gofynnir am hynny, fynychu a chyflwyno eich asesiad gorffenedig i banel maethu a/neu Lys.
I'ch cefnogi byddwn yn cynnig:
Ffioedd cystadleuol.
Yr holl ddogfennau a ffurflenni perthnasol.
Gwasanaeth ymgynghori drwy gydol yr asesiad gyda gweithwyr cymdeithasol plant a rheolwyr fel y bo'n briodol.
Sicrwydd ansawdd o ran yr asesiadau er mwyn rhoi adborth a chymorth adeiladol.
Cwblhau asesiad/au ar ran yr Awdurdod Lleol megis Ffurflen F Corambaaf, Personau Cysylltiedig, Ymarferoldeb neu Asesiadau Rhianta.
Manyleb Person - Profiad a Chymwysterau
Tystiolaeth o 3 blynedd o brofiad gwaith cymdeithasol o leiaf
Profiad o gwblhau asesiadau dadansoddol o ansawdd uchel sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Tystiolaeth o BA gwaith cymdeithasol neu gymhwyster cyfatebol (CQSW, DipSW)
Indemniad Cyhoeddus ac Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus.
Wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru
2 eirda proffesiynol.
Cwblhau GDG manwl.
CV cyfredol.
Gwybodaeth o ddeddfwriaeth a chanllawiau perthnasol
Sgiliau gwrando a chyfathrebu ardderchog
Sgiliau dadansoddi gwych
Gallu gweithio’n annibynnol ac yn gydweithredol fel aelod o dîm amlddisgyblaethol.
Yn brydlon ac yn ddibynadwy.
Ymrwymiad i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc.
Ymarfer mewn modd gwrth-wahaniaethol a gwrth-ormesol.
Ymarfer mewn ffordd sy'n dangos dealltwriaeth glir ac yn hyrwyddo cyfrinachedd.
I wneud cais i fod yn ein cronfa o aseswyr annibynnol anfonwch e-bost at fostercare@valeofglamorgan.gov.uk (at sylw Amy McArdle) gyda CV a manylion cyswllt.