Llyfr Diwylliant (Siarter Staff yn flaenorol) ac Arolwg Staff
Mae’r arolwg staff blynyddol yn ein helpu i ddeall sut mae staff yn teimlo y caiff yr ugain disgwyliad yn y Siarter Staff eu cyflawni ac mae’n helpu i lywio mentrau ymgysylltu a chynorthwyo staff yn y dyfodol.
Dyluniwyd y Siarter Staff mewn partneriaeth â chyflogeion, cafodd ei ddatblygu i sicrhau ein bod yn gallu parhau i gynnig y gwasanaeth gorau bosibl i’n cwsmeriaid trwy’r cyfraniad gorau bosibl gan ein holl gyflogeion. Wrth i’r heriau allanol dyfu, mae’n bwysig bod pawb yn cael y gefnogaeth a’r cyfle i wneud y cyfraniad hwnnw.
Mae arolwg blynyddol (a lansiwyd yn 2016) wedi ei gynnal fesul blwyddyn i fesur lefelau ymgysylltiad staff ac effeithiolrwydd Siarter Staff y Cyngor. Dangosodd canlyniadau arolwg staff 2017:
-
‘Ymddiriedir ynof i fwrw ymlaen â’m gwaith’ oedd y disgwyliad a gafodd y sgôr uchaf, sef 92.5%
-
Bu cynnydd yng nghyfartaledd cyfraddau’r ymatebion ‘cadarnhaol’ mewn 15 o’r 20 disgwyliad ar y Siarter Staff
-
Bu cynnydd yng nghyfraddau dychwelyd yr arolwg o 48% i 57% ers y flwyddyn flaenorol
Bydd gwaith ynghlwm ag ymgysylltiad yn parhau i fod yn flaenoriaeth uchel a bydd y canlyniadau’n helpu i roi gwybodaeth a llywio blaenoriaethau ymgysylltu â staff yn y dyfodol.
Mae’r Llyfr Diwylliant bellach wedi’i lansio yn 2021.
Gwerthuso a Datblygu Staff
Rydym yn ymrwymo i hyfforddiant a datblygu gyrfaoedd, cynnig llwybr gyrfa gwerth chweil, sy’n datblygu ac sy’n agored ac yn deg i bawb.
Mae cynllun gwerthuso blynyddol Bro Morgannwg wedi ei ddiwygio i gynnwys gwybodaeth o’r strategaeth ymgysylltu â chyflogeion i wneud y broses yn haws ei defnyddio ac yn fwy ystyrlon i bob cyflogai ac yn hanfodol, yn rhan o’r drafodaeth barhaus rhwng rheolwyr a staff.
Caffi Dysgu
Mae’r Caffi Dysgu yn annog staff i gymryd rhan mewn trafodaethau sy’n procio’r meddwl. Mae wedi ennill gwobrau sydd wedi cyflwyno ffordd newydd, anffurfiol o rwydweithio, rhannu syniadau a hyrwyddo arfer gorau. Rydym yn gwahodd staff i fynychu digwyddiadau misol mewn lleoliad cyfeillgar ac ymlaciol. Yn ogystal, anfonir erthyglau yn rheolaidd.