Taith Gerdded Noddedig yn Codi Arian ar gyfer Offer Campfa
Yn ddiweddar cynhaliodd gwasanaeth a reolir gan Gyngor Bro Morgannwg daith gerdded noddedig o 5km i godi arian ar gyfer offer campfa newydd arbenigol yng Nghanolfan Hamdden Penarth.
Mae'r Cynllun Cenedlaethol Cyfeirio Ymarfer Corff (NERS) yn rhaglen a ariennir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac a weithredir gan Dîm Byw'n Iach y Cyngor sydd wedi bod yn helpu unigolion i wella eu ffitrwydd a'u hiechyd cyffredinol ers 2007.
Roedd y llwybr 5 cilomedr a oedd yn mynd trwy dref glan môr hardd Penarth, yn cynnig cyfle i gyfranogwyr fwynhau uchafbwyntiau golygfaol fel y pier a'r Esplanâd.
Daeth y digwyddiad ag aelodau cymunedol, cyfranogwyr NERS, a chefnogwyr lleol ynghyd, i gyd wedi ymrwymo i hyrwyddo gweithgarwch corfforol a chefnogi'r cynllun.
Meddai Craig Nichol, un o drefnwyr y digwyddiad: “Rwyf mor falch gyda'r nifer o bobl sydd wedi troi allan i gefnogi'r rhaglen heddiw. Mae'n dangos faint mae'n ei olygu i gymaint o bobl a pha wahaniaeth y gall ein rhaglen ei wneud i bobl. Rydym hefyd yn ceisio tynnu sylw at bwysigrwydd amrywiaeth o weithgarwch a hefyd y rhwyddineb y gallwch chi slotio gweithgaredd corfforol i'ch bywyd. Y cyfan sydd ei angen yw ychydig o amser a phâr o esgidiau a gallwch fwynhau taith gerdded braf fel sydd gennym ni heddiw.”
“Rydym yn ddiolchgar i gefnogaeth y grŵp a'u dewis o'r ddau feic recline ar gyfer stiwdio NERS yng nghanolfan hamdden Penarth. Bydd y beiciau yn gymorth gwych i'r rhaglen ac yn helpu llawer mwy o bobl i wella eu hiechyd a'u ffitrwydd.”
Mae'r arian a godwyd o'r daith gerdded eisoes wedi mynd tuag at brynu dau feic newydd ar gyfer Stiwdio NERS yng Nghanolfan Hamdden Penarth.
Bydd yr ychwanegiadau hyn yn rhoi cymorth hanfodol i gyfranogwyr sy'n gweithio i wella eu hiechyd a rheoli cyflyrau cronig.
Mae NERS yn caniatáu i weithwyr iechyd proffesiynol gyfeirio cleifion at gynllun lleol lle gallant gael mynediad at hyfforddwyr medrus sy'n cynnig cyngor ymarfer corff a ffordd o fyw wedi'i deilwra. Mae'r cyfranogwyr yn elwa o 16 wythnos o sesiynau ymarfer corff cost isel, gyda'r nod o gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol a gwella lles cyffredinol.
Am ragor o wybodaeth am ein cynlluniau Oedolion E gnïol ewch i'n gwefan.