Cost of Living Support Icon

 

Cyngor yn dadorchuddio cerbydau ailgylchu trydan newydd

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cyflwyno dau gerbyd trydan i'w fflyd ailgylchu ochr y ffordd.

  • Dydd Iau, 03 Mis Ebrill 2025

    Bro Morgannwg



Mae’r cerbydau newydd — a weithgynhyrchir gan Romaquip — yw'r cam diweddaraf yn rhaglen ailosod cerbydau'r Cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Mark Wilson, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladu: “Mae'n wych gweld y cerbydau yn ymuno â'n fflyd ochr y ffordd.


“Mae'r cerbydau'n rhan allweddol o strategaeth Prosiect Sero y Cyngor i ddod yn awdurdod carbon niwtral erbyn 2030.

Electric Recycling Vehicles


“Fel Cyngor, rydym yn gweithio'n gyflym i leihau ein hôl troed carbon a gwneud newidiadau cadarnhaol o ystyried yr argyfyngau hinsawdd a natur parhaus.


“Rydym yn rhagweld y bydd arbediad o 49 y cant mewn costau tanwydd oherwydd y newid, yn ogystal ag arbediad carbon o 74 y cant.


“Mae cyflwyno cerbydau trydan i'n fflyd ailgylchu nid yn unig yn helpu i leihau allyriadau carbon o weithrediadau bob dydd, ond mae hefyd yn dangos ein hymrwymiad i ddarparu gwasanaeth effeithiol i drigolion, wrth ei gadw'n gynaliadwy.”

Ariannwyd y cerbydau hefyd yn rhannol gan grant a roddir gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo'r broses o drosglwyddo o gerbydau disel i gerbydau trydan, wrth i'r Cyngor symud tuag at ddatgarboneiddio.