Cost of Living Support Icon

 

Ysgrifennydd y Cabinet yn ymweld â safleoedd tai Cyngor y Fro

Ymunodd y Cyng Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, gyda Jayne Bryant MS, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Dai a Llywodraeth Leol i weld datblygiadau tai y Cyngor.

  • Dydd Mawrth, 21 Mis Ionawr 2025

    Bro Morgannwg



Fe wnaethant ymweld â sawl safle tai yn y Barri — un o'r ardaloedd gyda'r galw mwyaf am lety — gan gynnwys tri cynllun yn Coldbrook Road East, Clos Holm View ac ar hen safle Clinig Colcot, yn ogystal â'r cartrefi sydd newydd eu cwblhau ar Heol Hayeswood.


Mae datblygiad Heol Hayeswood yn cynnwys eiddo un, dwy, tair a phedair ystafell wely a adeiladwyd ar dir prynodd Cyngor Bro Morgannwg oddi wrth Lywodraeth Cymru.


Mae'r datblygiadau tai diweddar hyn yn rhan allweddol o gynlluniau tymor hir y Cyngor i gynyddu nifer y tai cyngor.

Councillor Lis Burnett and Cabinet Secretary Jayne Bryant MS

Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd y Cyngor: “Roeddwn yn falch iawn o ymuno ag Ysgrifennydd y Cabinet ar yr ymweliad hwn i weld ein datblygiadau tai cyngor uchelgeisiol.

 

“Mae sicrhau bod gan bob preswylydd y Fro fynediad i gartref hirdymor yn flaenoriaeth i'r Cyngor yn ystod y cyfnod hwn o alw eithriadol am dai.


“Trafododd Ysgrifennydd y Cabinet a minnau bwysigrwydd cynlluniau tai o'r fath a sut mae'r safleoedd newydd hyn yn helpu rhai o aelodau mwyaf bregus y gymuned.


“Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r argyfwng tai drwy adeiladu cartrefi o safon i drigolion y Fro heddiw ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.”

 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant: “Rydym yn gwybod bod wir angen am gartrefi o ansawdd da yn yr ardal hon ac roedd yn hyfryd gweld rhai o'r prosiectau arloesol y mae Cyngor Bro Morgannwg wedi bod yn eu cyflawni i fynd i'r afael â heriau tai yn y Barri.


“Fe wnaethon ni ddarparu mwy na £17m yn 2023/24 drwy ein Grant Tai Cymdeithasol i gefnogi datblygiadau tai ledled y sir ac rydym wedi dyrannu £10m arall y flwyddyn ariannol hon i helpu i ddarparu cartrefi hyd yn oed mwy fforddiadwy a modern.”

Clos Holm View Phase 2

Bydd datblygiad Coldbrook Road East - sydd ar hen safle chwarel - yn cynnwys cartrefi un a dau wely gyda gwaith i gael ei gwblhau ym mis Ebrill.


Roedd y daith hefyd yn cynnwys ymweliadau i weld 12 fflat newydd ar hen safle Clinig Colcot, a chartrefi ar ail gam Clos Holm View.


Roedd cam un datblygiad Clos Holm View yn cynnwys adeiladu 11 o dai, gyda 31 arall yn cael eu creu ar gam dau.


Mae Clos Holm View yn cynnwys cymysgedd o dai, fflatiau a byngalos gan gynnwys rhai cartrefi wedi'u haddasu i ddiwallu anghenion y rhai sydd ag aelod anabl o'r teulu.


Y prosiectau hyn yw'r enghreifftiau diweddaraf o waith y Cyngor i fynd i'r afael â'r galw cynyddol am dai ym Mro Morgannwg ac ar draws y wlad.