Ardaloedd Masnachu Awyr Agored ar gyfer Bwyd, Diod a Manwerthu
Ardaloedd Masnachu ar gyfer Bwyd a Diod a Manwerthu gan gynnwys byrddau hysbysebu o 1 Gorffennaf 2021
Mae'r polisi newydd yn galluogi'r Cyngor i gefnogi ac annog y gwaith rheoledig o ddarparu cyfarpar ar ei asedau priffyrdd, gan yr ystyrir bod hyn yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at drefi a chyrchfannau drwy ychwanegu bwrlwm, lliw, bywyd a diddordeb i'r strydlun.
Mae'r Cyngor hefyd o'r farn y gall hyn helpu i ddefnyddio mannau cyhoeddus yn y ffordd orau bosibl, helpu busnesau lleol yn ogystal ag ychwanegu at y cyfleusterau a gaiff eu cynnig i bobl sy'n ymweld â Bro Morgannwg, neu’n byw neu’n gweithio yma. Un ychwanegiad o'r fath fu cyflwyno Parciau Pafin gan y Cyngor ym Mhenarth. Tra bo’r Cyngor yn asesu’r gwaith o ail-bwrpasu mannau parcio yn Barciau Pafin a’u heffaith ar fusnesau lleol, mae’r Parciau Pafin yn gynlluniau peilot o hyd. Fodd bynnag, byddant yn amodol ar yr un prosesau ymgeisio a chodi ffioedd â thrwyddedau caffi, y manylir arnynt isod.
Er bod y Cyngor wrthi'n ceisio annog defnydd ar y polisi newydd hwn, mae'n bwysig bod mannau'n cael eu rheoli, i sicrhau eu bod yn bodloni'r safonau diogelwch priodol o fewn y strydlun.
Mae'n bwysig hefyd bod y droedffordd yn parhau i fod yn glir heb unrhyw beryglon i gerddwyr. Gall rhwystrau ar y palmant ei gwneud yn anodd i ddefnyddwyr dall, rhannol ddall ac i bobl eraill sy’n defnyddio troedffyrdd. Gall rhwystrau o'r fath hefyd achosi anghyfleusterau i eiddo neu fusnesau cyfagos.
Trwyddedau Caffi
Trwyddedau Caffi
Ardal Eistedd | Cost |
1 – 2 fwrdd gyda hyd at 8 cadair / sedd |
£267 y flwyddyn |
3 – 4 bwrdd gyda hyd at 16 cadair / sedd |
£534 y flwyddyn |
5 - 10 bwrdd gyda hyd at 40 cadair / sedd |
£1,067 y flwyddyn |
11+ o fyrddau gyda dros 40 o gadeiriau / seddi |
£1,601 y flwyddyn, ynghyd â £35 am bob cadair/sedd ychwanegol dros 40 |
Ardal fasnachu y tu allan ar gyfer gwerthu nwyddau
Ardal fasnachu y tu allan ar gyfer gwerthu nwyddau
Maint | Cost |
Dan 5 metr sgwâr |
£267 y flwyddyn |
Dros 5 metr sgwâr |
£534 y flwyddyn |
Byrddau Hysbysebu
Byrddau Hysbysebu
Eitem | Cost |
Byrddau Hysbysebu |
£119 yr un |
Mae cais am fwrdd hysbysebu yn costio £100 yr un gydag uchafswm o ddau fwrdd hysbysebu fesul busnes. Mae hyn yn cynnwys unrhyw un neu rai a ganiateir o dan y gofod masnachu allanol.
Os hoffech wneud cais am drwydded caffi, gofod masnachu y tu allan at ddibenion gwerthu nwyddau neu i gael defnyddio byrddau hysbysebu, mae angen i chi wirio eich bod yn hapus gyda thelerau'r polisi a llenwi'r ffurflen gais gan ei dychwelyd drwy e-bost neu drwy'r post at:
Cyngor Bro Morgannwg
Tîm Cynnal a Chadw Priffyrdd
Depo'r Alpau
Quarry Road
Gwenfô
CF5 6AA
Os byddwch yn penderfynu gwneud cais am un o'r trwyddedau, bydd yn cael ei ystyried gan y Cyngor ac os caiff ei gymeradwyo bydd y tîm Cynnal a Chadw Priffyrdd yn cytuno ar faint y lle a ganiateir i chi a bydd trwydded yn cael ei rhoi am 12 mis o'r dyddiad y telir y ffi. Os caiff ei gymeradwyo, dim ond ar y briffordd o fewn yr ardal drwyddedig y cytunwyd arni y gellir gosod unrhyw rwystrau, ffensys, hysbysfyrddau, dodrefn neu gyfarpar arall a fydd yn cael eu marcio â phinnau ffordd a phaent chwistrellu gan y Cyngor neu ei gynrychiolydd dynodedig.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y trefniadau polisi newydd neu os oes angen cymorth arnoch i gwblhau'r cais, cysylltwch â'r Cyngor i drafod cyn gynted â phosibl. Gallwch wneud hyn naill ai trwy e-bostio, neu ysgrifennu i'r cyfeiriad uchod neu drwy ffonio 01446 700111 a gofyn am Jessica Stoker.