Cost of Living Support Icon

Busnes 2 Busnes yn y Fro  

Mae rhwydweithio yn ffordd wych o hyrwyddo eich busnes, dysgu sgiliau newydd a chwrdd â busnesau eraill ond lle i ddechrau? 

Mae llawer o grwpiau rhwydweithio a chyfleoedd gwahanol iawn yn amrywio o ddigwyddiadau am ddim neu aelodaeth i filoedd y flwyddyn i fanteisio ar amrywiaeth o gefnogaeth a digwyddiadau.   Sut ydych chi’n gwybod beth sy’n iawn i chi?

Business 2 Business (Welsh)

 

1. Ystyriwch eich rhesymau dros ymuno  

Ydych chi eisiau cwrdd â chleientiaid arfaethedig yn uniongyrchol?  Ydych chi eisiau cwrdd ag atgyfeirwyr neu gydweithwyr arfaethedig?   Ydych chi eisiau cwrdd â chyflenwyr neu ddosbarthwyr?   Ydych chi eisiau gweld eich cystadleuaeth?   Neu efallai taw eich prif reswm dros fynychu yw’r elfen gymdeithasol?   Ceir sefydliadau B2B o bob math a maint gyda phobl wahanol, felly bydd diffinio eich angen yn eich helpu i ddewis yn y lle cyntaf.

 

2. Rhoi Cynnig Arni Cyn Prynu!  

Mae nifer o sefydliadau B2B yn gofyn i chi ymuno a thalu ffi aelodaeth blynyddol - fodd bynnag mae'n werth mynychu rhai i gael blas arnynt cyn ymuno!   Bydd y mwyafrif yn caniatáu i chi gael blas drwy fynd i un sesiwn am ddim.   Mae sawl gwahanol ffordd o rwydweithio ac mae’r cynigion yn amrywio, ond mae’n debyg y bydd rhywbeth a fydd yn fwy addas i chi.   Mae hyn hefyd yn rhoi cyfle i chi weld beth mae’r gwahanol becynnau cymorth yn eu cynnig a beth fyddech chi’n elwa ohono fwyaf.   Cofiwch eich bod chi yno i wella eich busnes - sicrhewch eich bod yn defnyddio eich amser yn gall!

 

Rhai pethau pwysig i'w hystyried:  

  • Beth yw cost yr aelodaeth?   Oes rhaid i mi dalu am ddigwyddiadau hefyd?
  • Ydw i'n gwybod am unrhyw un sydd wedi mynychu grwpiau rhwydweithio?
  • Ydyn nhw’n cynnig hyrwyddo eich busnes yn eu cynnig?
  • Faint o bobl sydd fel arfer yn mynychu?
  • Ydy’r ffocws ar-lein neu ar gwrdd wyneb yn wyneb?

 

<<Dychwelyd i'r Dudalen Cymorth Busnes