Cost of Living Support Icon

Cynllun Bwrsariaeth Busnes Newydd y Fro

Mae Cynllun Bwrsariaeth Busnes Newydd y Fro yn fenter adfywio a datblygu economaidd a arweinir gan Gyngor Bro Morgannwg mewn partneriaeth ag amryw o sefydliadau yn y sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.  

Nod y fenter yw rhoi'r pŵer i bobl y Fro reoli dyfodol eu cymunedau.

 

 

Vale Start Up Logo - no wording

Mae Bwrsariaeth Dechrau Busnes y Fro wedi cael ei hoedi dros dro.

 

Ynghylch Cynllun Bwrsariaeth Busnes Newydd y Fro

Wedi'i ariannu gan Sefydliad Waterloo a Chyngor Bro Morgannwg, mae Cynllun Bwrsariaeth Busnes Newydd y Fro yn darparu bwrsariaethau o hyd at £5,000, gydag 20% o arian cyfatebol yn ofynnol i unigolion a grwpiau o bobl sy'n bwriadu dechrau busnes neu fenter gymdeithasol newydd ym Mro Morgannwg. 

 

Diben y fwrsariaeth yw hyrwyddo amodau a fydd yn helpu entrepreneuriaid i weithredu eu syniad busnes.  Gall hyn gynnwys rhoi cyngor a chymorth arbenigol i ddatblygu syniad busnes, darparu'r offer neu'r adnoddau angenrheidiol i ddechrau busnes a helpu gyda chostau lleoliad busnes.

 

Bydd angen i ymgeiswyr gyflwyno cynllun busnes, rhagolwg llif arian 3 blynedd a ffurflen gais a fydd wedyn yn cael ei hasesu gan banel i'w chymeradwyo.

 

Bydd angen i ymgeiswyr gyflwyno cynllun busnes, rhagolwg llif arian 3 blynedd a ffurflen gais a fydd wedyn yn cael ei hasesu gan banel i'w chymeradwyo.  Cafodd ein prosiect gwreiddiol ei ddechrau ym mis Awst 2014 a bu'n rhedeg tan 2016 ac yn ystod y cyfnod hwnnw gwnaethom ysbrydoli a helpu i ddechrau 50 o fusnesau newydd yn y Fro.   Mae'r rhan fwyaf yn dal i fasnachu'n llwyddiannus, gyda llawer ohonynt bellach yn cyflogi staff ac wedi ehangu'n sylweddol dros y blynyddoedd. 

 

Mae'r cynllun yn cael ei arwain yn fwriadol gan berchennog busnes lleol sydd â 32 mlynedd o brofiad o redeg ei busnes llwyddiannus ei hun yn y Fro.

 

Y cymorth a ddarparwn pan fyddwch yn gwneud cais am Fwrsariaeth Busnes Newydd y Fro

Pan fyddwch yn gwneud cais am fwrsariaeth, gallwn gynnig cymorth a chefnogaeth helaeth gan gynnwys: 

  • Cyfarfodydd grŵp rheolaidd i adolygu'r gweithgareddau y mae pob cyfranogwr wedi'u profi dros y cyfnod diwethaf 

  • Trafod materion da a drwg sydd wedi codi a helpu i oresgyn heriau a wynebir gan unigolion

  • Caniatáu i unigolion ddysgu oddi wrth ei gilydd (cefnogaeth gan gyfoedion) a chael gwybodaeth werthfawr am rwydweithio 

  • Nodi anghenion hyfforddi a chyfeirio at y cymorth sydd ei angen 

  • Mentora ar sail unigol 

  • Meithrin y disgyblaethau sy'n ofynnol mewn busnes megis gosod nodau, rheoli amser, a sut i sicrhau twf eich busnes

  • Nodi cryfderau a gwendidau a sut i'w goresgyn 

  • Meithrin hyder a hunan-gymhelliant

  • Parhau i weithio gyda phartneriaid fel Busnes Cymru, Busnes mewn Ffocws, Busnes Cymru, Ymddiriedolaeth Tywysog Cymru a Cymunedau yn Gyntaf i sicrhau cefnogaeth i fuddiolwyr 

  • Cyfarfodydd Clwb Busnesau Newydd Chwarterol gyda siaradwyr gwadd sy'n ymdrin ag amrywiaeth o bynciau gan gynnwys, Gosod Nodau, Sgiliau Cyflwyno, Marchnata, Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata Digidol, Eiddo Deallusol a Safonau Masnach.

 

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais i’r Cynllun Bwrsariaeth cwblhewch y ffurflen Mynegiant o Ddiddordeb isod. 

 

 

 

Ceisiadau Llwyddiannus

  • Dysgwch ychydig mwy am ein hymgeiswyr llwyddiannus, mae pob un wedi'u yn lleol ac efallai bod ganddyn nhw rywbeth i'w gynnig i chi: 
    • Milkshed, Penarth - Mae'r Milkshedyn cynnig lleoedd gwaith unigryw a hyblyg ger Canol Tref Penarth i weithwyr llawrydd, busnesau bach a phobl greadigol.
    • Asiantau Tai Botham Williams - Mae Asiantwyr Tai Botham Williams yn Asiantaeth Dai ar gyfer yr Unfed Ganrif ar Hugain sydd â ffocws ar gwsmeriaid, sy’n meddwl yn annibynnol, ac sydd â chostau cystadleuol.
    • Gaffah - Mae Gaffah yn llwyfan ffrydio ar gyfer ffilmiau annibynnol, myfyrwyr a chelf.  Mae'r casgliad o ffilmiau yn dod o bedwar ban byd ac yn rhoi blas i wylwyr o rywbeth na fydden nhw'n ei gael gan wasanaethau prif ffrwd. 
    • The Head Space, Dinas Powys Salon gwallt a harddwch sy'n ymroddedig i greu'r fersiwn orau ohonoch.     

       

    • Holm Bay yn cynnig casys ffôn bioddiraddadwy mewn detholiad mawr o ddyluniadau prydferth.
    • Isabel Rose Bakes - cacennau blodau hardd

    • Red Ruin Entertainment - gwasanaeth ffilmio a golygu fideo

    • Aeliau and beauty, Barry - artist aeliau yn y Goodsheds, y Barri

    • The Doc Town Bar, y Barri - micro-dafarn a thŷ cwrw

    • Mentora Therapiwtig Lynne Jones - mentora therapiwtig 

    • St Brides Handmade - ategolion gwallt wedi'u gwneud â llaw a fêls ar gyfer priodferched ynghyd ag ategolion eraill ar gyfer y parti priodasol 

     

  

 

 Sut i gysylltu â ni:

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â’r tîm Datblygu Economaidd 

 

 

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd wrth ddefnyddio gwasanaethau’r Cyngor.

 

Hysbysiad Preifatrwydd y Wefan