Cyn cychwyn y perfformiad bydd yr hypnotydd yn rhoi datganiad i'r gynulleidfa, mewn modd difrifol, yn nodi’r grwpiau hynny o bobl na ddylai wirfoddoli i gymryd rhan ynddo; esbonio'r hyn y gofynnir i wirfoddolwyr ei gyflawni; hysbysu'r gynulleidfa am y risgiau posibl o embaras neu bryder; a phwysleisio y gall gwirfoddolwyr roi’r gorau i gymryd rhan ar unrhyw adeg y maent yn dymuno.
Mae'r canlynol yn ddatganiad a awgrymir, a allai gael ei ddiwygio yn ôl yr angen i fod yn addas ar gyfer arddulliau unigol, cyhyd ag y bo'r neges gyffredinol yn parhau i fod yr un fath;
“Byddaf yn chwilio am wirfoddolwyr dros 18 oed sy'n barod i gael eu hypnoteiddio a chymryd rhan yn y sioe. Dylai unrhyw un sy'n dod ymlaen fod yn barod i gymryd rhan mewn amrywiaeth o awgrymiadau hypnotig difyr, ond gallant fod yn sicr na fydd gofyn iddynt wneud unrhyw beth sydd yn anweddus, sarhaus neu niweidiol.
Mae angen i wirfoddolwyr fod mewn iechyd corfforol a meddyliol normal ac mae'n rhaid i mi ofyn i bobl sydd â hanes o salwch meddwl, sydd o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau eraill, neu’n feichiog, beidio â gwirfoddoli.”
Ni chaniateir defnyddio unrhyw fath o orfodaeth i berswadio aelodau o'r gynulleidfa i gymryd rhan yn y perfformiad. Yn benodol, ni fydd hypnotyddion yn defnyddio technegau dethol sy'n ceisio nodi a gorfodi aelodau mwyaf hygoelus y gynulleidfa ar y llwyfan, heb eu gwybodaeth flaenorol o'r hyn a fwriedir.
Dim ond pan fydd y gynulleidfa yn gwbl ymwybodol o'r hyn a fwriedir a bod cyfranogiad yn gwbl wirfoddol yn ystod pob cam y gellir gwneud unrhyw ddefnydd o dechnegau dethol o'r fath (e.e. gofyn i aelodau o'r gynulleidfa blethu eu dwylo a gofyn i’r rhai nad ydynt yn gallu eu rhyddhau ddod i'r llwyfan;
Os yw gwirfoddolwyr yn aros wedi’u hypnoteiddio yn ystod egwyl yn y perfformiad, bydd nifer rhesymol o hebryngyddion, fel y cytunwyd gyda'r awdurdod trwyddedu, yn bresennol drwy gydol yr amser er mwyn sicrhau eu diogelwch.