Cefndir a Meini Prawf Cymhwysedd
Darperir ar gyfer lles anifeiliaid perfformio yn y darpariaethau cyffredinol i osgoi dioddef ac i sicrhau lles yn Neddf Lles Anifeiliaid 2006. Yn ogystal, rheoleiddir hyfforddi ac arddangos anifeiliaid perfformio gan Ddeddf Anifeiliaid Perfformio (Rheoliad) 1925 sy’n ei gwneud yn ofynnol i hyfforddwyr ac arddangoswyr anifeiliaid o’r fath gael eu cofrestru gyda’r awdurdod lleol.
Dan y Ddeddf hon, mae gan yr heddlu, swyddogion awdurdodau lleol, a all gynnwys milfeddyg, rymoedd i fynd i mewn i safle lle bo anifeiliaid yn cael eu hyfforddi a’u harddangos, ac os gwelir creulondeb neu esgeulustod, gall llys yr ynadon wahardd neu gyfyngu hyfforddi neu arddangos yr anifeiliaid a gohirio neu ganslo’r cofrestriad wedi’i gymeradwyo dan y Ddeddf.
Rhaid i bob person sydd am ddefnyddio anifeiliaid i berfformio gofrestru yn y lle cyntaf i gael tystysgrif cofrestru, ac ni ddylai unrhyw berson gymryd rhan ym mherfformiad anifeiliaid heb wneud asesiad risg wedi'i wneud gan berson cymwys. Gellir cael cyngor cadarn gan y canlynol:
- Hyfforddwyr anifeiliaid hyfforddedig
- Milfeddygon
- sŵau
- Adrannau prifysgol
Dyletswydd yr ymgeisydd yw sicrhau y rhoddir gwybod i gyflogeion os ydynt yn mynd i weithio gydag anifeiliaid rhag ofn ffobiâu neu alergeddau.
Dylai gwybodaeth fod ar gael i bob person sy’n rhan o’r gwaith am agweddau megis bwydo, osgoi tarfu, beth i’w wneud mewn argyfwng a’r risgiau iechyd yn enwedig i fam sy'n disgwyl a achosir gan heintiau anifeiliaid.
Mae’n bwysig nad yw anifeiliaid yn perfformio am gyfnod rhy hir ac y caiff unrhyw offer sy'n cael ei ddefnyddio er enghraifft gwair neu wellt ei drin a'i ddiogelu rhag tân. Dylai cymorth cyntaf bob amser fod wrth law.