Cefnogi Cymunedau Ledled y Fro
Rydym yn dîm sy'n ymroddedig i gefnogi cymunedau, gallwn eich helpu i weithio gyda'ch trigolion a'ch sefydliadau lleol i benderfynu ar eich blaenoriaethau, gwneud cynlluniau gweithredu, a cheisio cyllid.
Byddwn yn canolbwyntio bob amser ar adfywio, cyd-gynhyrchu, cydweithio ac arloesi, wedi'u gyrru gan gymunedau. Rydym yn hyrwyddo datblygiad lleol dan arweiniad y gymuned, ac rydym yma i'ch arwain, nid gwneud pethau i chi! Mae pob menter gymunedol lwyddiannus yn cael ei gyrru gan y bobl sy'n byw ac yn gweithio yn eich ardal chi, rydyn ni'n eich helpu chi i ganolbwyntio ar ble i ddechrau a sut.
Mapio Cymunedol
Lle da i ddechrau yw gyda Mapio Cymunedol. Mae'r broses yn cynnwys cael pobl i siarad am yr hyn sydd eisoes yn bodoli, o ran asedau cymdeithasol (unigolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau) ac asedau corfforol (e.e. canolfannau cymunedol, mannau agored a busnesau), a’r hyn sydd o bwys i’r gymuned. Bydd hyn yn helpu i nodi gallu ac asedau'r gymuned ac yn cynllunio ar gyfer darpariaeth yn y dyfodol.
Pecyn Cymorth Mapio Cymunedol
Cyllid Cymunedol
Mae llawer o gyfleoedd ariannu i gymunedau, yn dibynnu ar y raddfa a'r amcanion. Gallwn eich helpu i archwilio'r cyllid cywir ar eich cyfer. Yn y cyfamser, gallech gymryd golwg ar sawl cyllid y mae'r cyngor yn ei weithredu.
Grant Cymunedau Cryf Cronfa Ffyniant Gyffredin