Cost of Living Support Icon

Gweithdai Sgiliau Digidol

Rydym yn cynnig amrywiaeth o weithdai cyfrifiadur ar gyfer pob lefel, o ddechreuwyr pur i ddefnyddwyr hyderus, ac mae ein holl gyrsiau wedi’u hachredu.

 

Canolfan Ddysgu Palmerston, Cadoc Crescent, Y Barri, CF63 2NT

 

Mae gweithdai newydd yn dechrau drwy gydol y flwyddyn.  Mae gennym ddosbarthiadau yn Llyfrgell y Barri, Canolfan Dysgu Oedolion yn y Gymuned Palmerston, Llyfrgell Penarth, The Gathering Place yn Sain Tathan a Chanolfan CF61 yn Llanilltud Fawr.

 

Cysylltwch â Chanolfan Dysgu Oedolion yn y Gymuned Palmerston am ragor o wybodaeth neu i archebu eich lle.

 

Digital Skills Workshops - Gweithdai Sgiliau Digidol

Gweithdai Sgiliau Digidol

Gyda chefnogaeth tiwtoriaid, mae pob dysgwr yn gallu datblygu eu sgiliau digidol ar eu lefel eu hunain a'u cyflymder. Cynhelir y gweithdai yn wythnosol am 2 awr bob sesiwn.  Bydd pob dysgwr wedi'i achredu gyda chymhwyster Agored Cymru a bydd ganddynt y dewis o sefyll yr arholiadau ICDL ar gyfer cymhwyster pellach.

 

Essential Digital Skills - Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol

Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol

Cwrs i ddechreuwyr yw hwn a fydd yn eich dysgu sut i ddefnyddio'ch cyfrifiadur neu ddyfais ddigidol arall.  Mae'n cynnwys cadw'n ddiogel ar-lein, defnyddio'r rhyngrwyd, anfon a derbyn e-bost, sut i ysgrifennu dogfen neu lythyr sy'n edrych yn broffesiynol, sut i drefnu gwybodaeth gan ddefnyddio taenlen a sut i weithio gydag eraill ar brosiect digidol.

 

Digital Drop-in - Sesiwn Galw Heibio Digidol

Sesiwn Galw Heibio Digidol

Efallai bod angen help arnoch i sefydlu ffôn? Neu i anfon e-bost? Mae angen ein gwasanaeth Galw Heibio Digidol arnoch.  Mae hyn yn gymorth un-i-un i'ch helpu i ddefnyddio'ch dyfais ddigidol.  Ffoniwch ni yn Palmerston ar 01446 733762 i drefnu apwyntiad.

 


Alla i ennill cymwysterau?

Mae'r cyrsiau i gyd yn arwain at Agored Cymru, a chymwysterau ICDL dewisol.

 

Pryd galla i ddechrau?

Gallwch ddechrau unrhyw bryd. Ffoniwch 01446 733762 neu ewch i’r Ganolfan gyntaf fel y gallwn roi mwy o wybodaeth i chi am ein dosbarthiadau, diwrnodau ac amseroedd.

 

Cost?

Mae cyrsiau yn RHAD AC AM DDIM i'r rhai sydd naill ai:

 

  • Nid mewn addysg, cyflogaeth, na hyfforddiant yn bresennol.

  •  

    Yn derbyn budd-daliadau neu gymorth gan y wladwriaeth (ac eithrio pensiwn ymddeoliad y wladwriaeth).

  • Yn chwilio am waith neu’n chwilio am gyfleoedd cyflogaeth gwell.

  • Wedi cymhwyso dim uwch na lefel 2.

  • Dros 50 ond heb dderbyn pensiwn ymddeol y wladwriaeth.

Sylwch y gall ffioedd fod yn berthnasol i ICDL, gofynnwch wrth holi.