Ynghylch Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch
Mae'r rhyddhad hwn wedi'i anelu at fusnesau a thalwyr ardrethi eraill yng Nghymru yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch, er enghraifft siopau, tafarndai, bwytai, campfeydd, lleoliadau perfformio a gwestai. Nod y cynllun yw darparu cymorth ar gyfer eiddo cymwys a feddiannir drwy gynnig gostyngiad o 40% ar filiau ardrethi annomestig ar gyfer eiddo o'r fath.
Bydd y cynllun yn berthnasol i bob busnes cymwys, ond bydd y rhyddhad yn amodol ar uchafswm y gall pob busnes ei hawlio ledled Cymru. Cyfanswm y rhyddhad sydd ar gael yw £110,000 ar draws pob eiddo a feddiannir gan yr un busnes.
I wirio'ch gwerth ardrethol a dod o hyd i gyfeirnod eich eiddo (os nad oes gennych eich bil wrth law) ewch yma:
Tax Service
Dim ond un cais y mae angen i chi ei gyflwyno fesul busnes yng Nghyngor Bro Morgannwg, hyd yn oed os ydych yn gwneud cais am sawl eiddo - gwnewch yn siŵr bod gennych yr holl fanylion eiddo yn barod i wneud cais.
Gwefan Business Wales