Sut bydd glaswelltiroedd yn cael eu rheoli wrth symud ymlaen
Mae adrannau Parciau a Mannau Agored a Phriffyrdd yn rheoli'r glaswelltiroedd ar ymylon ffyrdd, parciau ac o fewn ardaloedd preswyl.
I gael rhagor o wybodaeth a chyngor ar reoli glaswelltiroedd ar dir preifat a mannau nad ydynt yn eiddo i awdurdodau lleol (er enghraifft, cynghorau cymuned) cysylltwch â Phartneriaeth Natur Leol y Fro.
Torri gwair ar gyfer amwynder (torri bob tair wythnos)
-
Mae mannau agored ac ymylon ffyrdd yn cael eu torri ar gylchred o dair wythnos
-
Mae Parciau Baner Werdd yn cael eu torri bob 10 diwrnod gydag ardaloedd wedi'u neilltuo sy'n cael eu rheoli fel ardaloedd cadwraeth
Torri gwair er lles cadwraeth (dim torri yn ystod y tymor blodeuo Ebrill-Medi)
-
Ymylon ffyrdd gwledig, ymylon ffyrdd preswyl ac ardaloedd dynodedig o fewn parciau a mannau agored
-
Bydd yr ardaloedd hyn yn cael eu torri yn gynnar yn y gwanwyn a’r hydref gan ddefnyddio peiriant torri a chasglu, os yw’n briodol, bydd y sgil-gynhyrchion yn cael eu gadael mewn pentyrrau ar y safle, ac efallai y bydd yr ymylon yn cael eu torri ar rai safleoedd trwy gydol y tymor tyfu i'w cadw'n daclus
Torri gwair ar gyfer lleiniau gwelededd (Torri yn ôl yr angen; hyd at dair gwaith yn ystod y tymor blodeuo mewn ardaloedd nad ydynt yn drefol a phob tair wythnos mewn ardaloedd trefol)
-
Ardaloedd ger cyffyrdd, cylchfannau, ffyrdd troellog er mwyn cynyddu gwelededd i fodurwyr
-
Mae lleiniau gwelededd ar rwydweithiau ffyrdd strategol ac anstrategol yn cael eu torri ddechrau mis Mai, gydag ymylon ffyrdd y rhwydwaith strategol yn cael eu torri ar ddau achlysur arall a'r ymylon ar ffyrdd anstrategol yn cael eu torri unwaith yn ychwanegol os oes angen
Bydd ymylon ffyrdd a glaswelltiroedd sy'n cael eu cynnwys yn y cynllun yn cael eu nodi gan ddefnyddio arwyddion.