Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Mae glaswelltiroedd llawn rhywogaethau yn un o’n cynefinoedd pwysicaf yn y DU. Maent yn cynnal amrywiaeth enfawr o fywyd gwyllt gan gynnwys blodau gwyllt, ffyngau, infertebratau, ymlusgiaid, amffibiaid, mamaliaid bach, ystlumod ac adar. Mae un rhan o bump o'r holl rywogaethau â blaenoriaeth ar gyfer cadwraeth yn y DU yn gysylltiedig â chynefinoedd glaswelltir.
Browser does not support script.
Cymerodd tua 6,000 o flynyddoedd i greu’r glaswelltir llawn rhywogaethau y mae’r DU yn enwog yn fyd-eang amdano. Ers y 1930au rydym wedi colli 97% ac mae hyn y parhau i ddigwydd. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cafodd chwe miliwn erw o laswelltir ei aredig i dyfu cnydau, ac roedd hyn yn ddechrau proses lle byddem yn gweld dolydd yn lleihau.
Mae colli cynefinoedd yn sbardun mawr i ddirywiad rhywogaethau ac mae colli cynefin dolydd wedi cael effaith drychinebus ar bryfed peillio
Mae pob cilomedr sgwâr yn y DU wedi colli 11 rhywogaeth o wenyn a phryfed hofran ar gyfartaledd ers yr 1980au
Mae dros draean o rywogaethau cacwn wedi gostwng o 70%
Difodiant 56 o wyfynod ers 1914
Mae 76% o rywogaethau gloÿnnod byw wedi prinhau dros y 40 mlynedd diwethaf
Mae’r DU yn gartref i rai o laswelltiroedd ffyngau cap cwyr pwysicaf y byd, gyda dros hanner o'r rhain i'w gweld yng Nghymru. Er hynny, mae llawer o'r rhywogaethau hyn yn prinhau o ganlyniad i golli cynefinoedd a newidiadau i'w hamgylchedd. Mae'n bwysig cadw glaswelltiroedd llawn ffyngau oherwydd unwaith y cânt eu colli, maent yn cael eu colli'n llwyr gan na ellir byth eu hadfer.
Drwy weithredu trefn reoli newydd sy’n fwy cydnaws â bioamrywiaeth, gallwn adfer a gwella’r glaswelltiroedd hyn fel cynefin i bryfed peillio a bywyd gwyllt arall ledled Bro Morgannwg.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â: