Aberddawan
Dyma draeth mwyaf creigiog y rhan hon o’r arfordir. Mae’n boblogaidd ymhlith pysgotwyr a syrffwyr, ac yn dynodi terfyn pen dwyreiniol Arfordir Treftadaeth Morgannwg.
Bu hwn yn safle porthladd prysur oedd yn masnachu mewn grawn a da byw yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Bellach, mae’n llecyn tawel a llonydd i bobl a bywyd gwyllt fel ei gilydd.
Mae tŵr yr orsaf bŵer ger llaw i’w weld y glir uwchben y traeth, ond mae’n rhan o fywyd bob dydd Aberddawan erbyn hyn.
Ar diroedd yr orsaf bŵer, ceir amrywiaeth neilltuol o gynefinoedd diogel ar gyfer ystod eang o rywogaethau bywyd gwyllt. Mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Cymru wedi cofnodi dros fil o wahanol rywogaethau yma, ac mae 62 o’r rhain o ddiddordeb blaenllaw i gadwraeth bioamrywiaeth Cymru.
Ymhlith y mathau o fywyd gwyllt sy’n ymweld â’r ardal mae draenogod y môr, siarcod ‘mustelus’, piod y môr a chwtiaid y traeth.
Treftadaeth a Bywyd Gwyllt
Yn anterth y porthladd, roedd llongau’n galw’n gyson o Ffrainc, Sbaen ac India’r Gorllewin, ac roedd yn adnabyddus am fewnforio tybaco o St. Kitts.
Safai storfeydd yma i gadw nwyddau ger yr harbwr ac yn y pentref, lle’r oedd nifer o dafarndai, yn cynnwys y Ship, y Crown and Anchor, y Maltsters Arms a’r Blue Anchor, sydd yma o hyd ac mor boblogaidd ag erioed, er bod si ar led bod ysbryd menyw i’w gweld yno o bryd i’w gilydd!
Cyfleusterau