Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Yn ogystal, mae Cwm Colhuw yn gartref i rywogaethau prin a phrydferth, yn cynnwys y Pili-pala Bach Glas, iâr fach yr haf frodorol leiaf Prydain. Gwelir llawer o fywyd gwyllt yng Ngwarchodfa Natur Cwm Colhuw hefyd, sy’n rhedeg ar hyd pen y clogwyni tua’r gorllewin ac yn ôl i gyfeiriad y dref.
Mae tref hanesyddol Llanilltud Fawr ger llaw, ac mae yma siopau annibynnol ac amrywiaeth o lefydd bwyta. Mae’n werth ymweld ag Eglwys Sant Illtud a Chapel Galilea hefyd.
Flynyddoedd maith yn ôl, deuai ysbeilwyr Gwyddelig a Llychlynnaidd i’r lan yn y fan hon i ymosod ar y dref a dwyn trysorau.
Ymhen tipyn, cawsai trigolion y dref ddigon ar hyn, ac ymladd yn ôl. Fe lwyddon nhw i guro grŵp o ysbeilwyr drwy eu denu â merched del a gwin, ac yna ymosod arnynt!
Cafodd diwrnod y fuddugoliaeth ei ddathlu am flynyddoedd lawer ar 3 Mai o dan yr enw Diwrnod Annwyl.