Bae Dwnrhefn
Mae’r trigolion lleol yn hoff iawn o’r traeth, ac mae’n denu nifer fawr o ymwelwyr bob blwyddyn. Er mai Bae Dwnrhefn yw ei enw swyddogol, gelwir Southerndown arno’n aml, ar ôl y pentref cyfagos.
Mae’n draeth gwych i chwilota ffosiliau, ac mae rhai o byllau creigiog gorau’r arfordir i’w cael yma. Mae’r traeth tywod yn un eang braf, ac mae maes parcio mawr a chyfleusterau ar gael i ymwelwyr.
Mae’r bae yn fan cychwyn da i ddechrau taith gerdded. Os oes gennych awydd gwneud diwrnod llawn o gerdded, lawrlwythwch daith gerdded Aberogwr, sy’n cysylltu’r ddau draeth braf hyn. Os mai rhywbeth mwy hamddenol sydd at eich dant, neu os yw’r llanw’n uchel, gallwch ymweld â gerddi muriog ac adfeilion Castell Dwnrhefn, a mwynhau’r golygfeydd ysblennydd draw i gyfeiriad Temple Bay (cadwch lygad am y rhaeadrau sy’n tasgu o ben y clogwyni!).
Treftadaeth a Bywyd Gwyllt
Bu pobl yn byw yn Nwnrhefn, ac yn ei feddiannu, ers Oes yr Haearn, a chredir bod brig clogwyni yn cael eu defnyddio fel man masnachu. Yn fwy diweddar, cododd y Rhufeiniaid gaer yma, a ddisodlwyd gan faenordy yn y 1700au. Yn olaf, codwyd annedd o’r enw Castell Dwnrhefn, a addaswyd yn ysbyty adfer rhwng y ddau ryfel byd.
Yn anffodus, dymchwelwyd y castell yn y 1960au, ond gwelir rhai o’r adfeilion hyd heddiw. Lawrlwythwch yr ap i weld sut byddai Dwnrhefn yn edrych pan oedd yn fan masnachu yn Oes yr Haearn, neu i fynd ar wibdaith o amgylch Castell Dwnrhefn. Wedyn, dewch i ymweld â Dwnrhefn a gweld y safleoedd yn dod yn fyw ar eich ffôn clyfar neu declyn tabled.
Bu gan nifer o drigolion Dwnrhefn straeon i’w hadrodd, ac efallai mai’r un mwyaf adnabyddus ohonynt oedd Walter Vaughn. Yn ôl y chwedl, trodd ei law at ddryllio llongau i dalu ei ddyledion gamblo, ac roedd y canlyniadau’n drasig.
Mae Dwnrhefn yn lle gwych i weld bywyd gwyllt, naill ai o’r traeth, y gerddi neu Lwybr Arfordir Cymru. Gwyliwch yn benodol am y frân goesgoch brin – mae ganddo big a choesau coch.
Cyfleusterau
- Cwt hufen iâ (tymhorol)
- Maes Pebyll
- Bwyty/Caffi
- Parcio
- Tafarn
- Toiledau