Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Mae traeth Cwm Nash, a elwir yn Monknash hefyd, yn draeth bendigedig â chlogwyni dramatig yn gefnlen iddo. Mae’r nant yn llifo dros haenau’r creigiau ac yn creu rhaeadrau sy’n ffrydio ac yn gadael pyllau dŵr toreithiog a thraeth euraid trawiadol pan fo’r llanw allan.
Mae Cwm Nash yn lle gwych i weld yr hebogiaid gleision sy’n nythu ar y clogwyni. O bosib y gwelwch bâr yn cylchu fry uwchben yn hela ysglyfaeth. Gwyliwch wrth iddynt blygu eu hadenydd yn ôl a phlymio i ddal yr ysglyfaeth honno ar gyflymder o hyd at 200 milltir yr awr.
Pan fyddwch yn ymweld â’r traeth, edrychwch i fyny wyneb y clogwyn bach gorllewinol, ac efallai welwch chi esgyrn yn ymwthio allan. Credir bod pen y clogwyni yma’n safle claddu i’r gymuned leol a phobl a foddodd mewn llongddrylliadau erchyll yn ystod yr unfed a’r ail ganrif ar bymtheg. Er iddynt gael eu niweidio dipyn, daethpwyd o hyd i’r esgyrn hynafol pan ddymchwelodd rhannau o’r clogwyni mewn storm, a datgelu’r beddi a aeth yn hir angof.
Bu cysylltiad clòs rhwng pentref cyfagos Monknash a’r eglwys ar un adeg. Maenor oedd Monks Nash – fferm bellennig dan berchnogaeth yr eglwys – ac roedd yn cyflenwi bwyd i’r abaty Sistersaidd yng Nghastell-nedd. Gwelir olion y faenor mewn rhai mannau yn y pentref hyd heddiw. Defnyddiwch ein pecyn hwyl i’r teulu i grwydro’r pentref a dod o hyd i weithdy’r saer coed, y colomendy a phwll y brithyll ymhlith eraill.
Pan fyddwch chi yn y pentref, cofiwch alw yn nhafarn hanesyddol y Plough and Harrow a chlywed eu straeon ysbrydion.