Rhentu Doeth Cymru
Dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014, mae rhwymedigaethau cyfreithiol newydd ar landlordiaid sydd ag eiddo rhent yng Nghymru. Mae gwefan Rhentu Doeth Cymru -www.rhentudoeth.llyw.cymru - yn esbonio’r rhwymedigaethau hyn a bydd yn eich helpu chi i ddeall y broses.
Cofrestru Landlordiaid: Mae hi’n ofynnol i unrhyw landlord sydd ag eiddo rhent yng Nghymru a rentir ar denantiaeth sicr, tenantiaeth byrddaliad sicr neu denantiaeth reoleiddiedig, gofrestru.
Trwyddedu Landlordiaid: Nid oes angen trwydded ar landlordiaid nad ydynt yn rhan o’r gwaith o sefydlu tenantiaethau a rheoli eu heiddo rhent; fodd bynnag mae’n rhaid iddynt ddefnyddio asiant trwyddedig a chofrestru fel landlord gan ddatgan eu hasiant wrth gofrestru.
Rhentu Doeth Cymru