Sut fydd hyn yn effeithio arnoch chi?
Y Cyngor fydd eich landlord o hyd a byddwch yn parhau i dderbyn yr un gwasanaeth tai ag yr ydych yn ei wneud ar hyn o bryd. Byddwch yn dal i allu byw yn eich cartref, byddwch yn dal i dalu rhent, a byddwn yn dal i wneud eich atgyweiriadau ac yn gofalu am eich ystadau a'ch ardaloedd
cymunedol. Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a sefydliadau tai eraill i baratoi ar gyfer y newidiadau, a bydd ein staff yn gweithio'n galed i sicrhau bod y newidiadau'n cael eu gweithredu mor ddi-dor â phosibl.