Nid yw'n ymddangos bod hyn yn broblem o bwys i gynghorau eraill sydd eisoes yn casglu gwastraff na ellir ei ailgylchu bob tair neu bedair wythnos.
Os yw preswylydd yn gwaredu gwastraff cartref neu fasnach ar ffyrdd, mewn caeau, mewn afonydd, neu ar dir preifat heb ganiatâd, gelwir hyn yn 'dipio anghyfreithlon'. Ni chaniateir hyn. Os ydych yn tipio’n anghyfreithlon, gallech orfod talu cosb benodedig yn y pen draw, neu fynd i’r llys a chael dirwy.
Nid oes byth esgus dros dipio anghyfreithlon, ac nid oes gennym reswm i gredu y bydd y rhan fwyaf o drigolion Bro Morgannwg yn dechrau torri'r gyfraith fel hyn.
Yr eitemau mwyaf cyffredin sy'n cael eu tipio'n anghyfreithlon yw eitemau swmpus neu wastraff masnach, ac nid ydym yn casglu dim ohonynt fel rhan o'n casgliadau arferol.
Os oes angen i chi gael gwared ar eitemau swmpus o'r cartref nad ydych eu heisiau mwyach – megis gwelyau a soffas, matresi, byrddau a chadeiriau, cypyrddau dillad, popty a pheiriannau golchi llestri, rhewgelloedd oergell, peiriannau golchi a sychwyr dillad, a thanhaen carpedi – gallwch fynd â'r rhain i'ch Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref leol am ddim.
Fel arall, gallwch archebu casgliad gwastraff cartref swmpus.
Mae gan bob un ohonon ni gyfrifoldeb i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd. Os ydych yn gweld unrhyw un yn tipio gwastraff na ellir ei ailgylchu’n anghyfreithlon (neu unrhyw fath o ailgylchu), rhowch wybod i ni.
Os bydd unrhyw breswylwyr yn rhoi gwastraff na ellir ei ailgylchu yn eu cynwysyddion i'w ailgylchu, ni fyddwn yn ei gasglu.