Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Os cafodd eich babi ei eni y tu allan i Fro Morgannwg: Gallwch wneud datganiad yn Swyddfa Gofrestru'r Barri. Yna bydd y wybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei phostio i'r swyddfa gofrestru yn yr ardal lle cafodd eich babi ei eni a bydd yr enedigaeth yn cael ei chofrestru yno. Dim ond pan fydd yr enedigaeth wedi’i chofrestru y gellir prynu tystysgrifau geni. Os hoffech gael tystysgrifau ar unwaith, bydd angen i chi wneud apwyntiad i gofrestru yn yr ardal lle cafodd y babi ei eni:
Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd: Swyddfa Gofrestru Caerdydd
Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr: Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr
Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant: Swyddfa Gofrestru Rhondda Cynon Taf
Os cafodd eich babi ei eni ym Mro Morgannwg neu os hoffech wneud datganiad ac aros am dystysgrif, cysylltwch â ni am apwyntiad:
Archebu ar-lein
Neu:
Sut i hawlio Budd-daliadau Plant
I gael mwy o wybodaeth am gofrestru genedigaeth, ewch i gov.uk:
Gov.uk/register-birth