Tystysgrifau Geni, Priodas a Marwolaeth
Mae tystysgrifau geni’n lle da i ddechrau chwilio am eich achresi. Os mai prin yw’r wybodaeth sydd gennych am eich rhieni, gallwch ddechrau gyda’ch tystysgrif eich hun.
Gall tystysgrifau priodas fod yn ffynhonnell well fyth, am eu bod yn dangos enwau a swyddi’r tadau yn ogystal â’r pâr sy’n priodi.
Mae pob tystysgrif geni, priodas a marwolaeth (copïau cyflawn o gofnod cofrestr) yn gopi union o’r manylion a gofnodwyd yn y gofrestr.
CAIS AM DYSTYSGRIF GENI, PRIODAS, MARWOLAETH
Tystysgrif Geni Safonol:
- Enw a dyddiad geni
- Enw llawn a chenedl y plentyn
- Enw’r ddau riant (os cofnodwyd nhw yn y gofrestr)
- Cyfeiriad y rhiant/rhieni
- Enw mam y plentyn cyn iddi briodi (os yn berthnasol)
Tystysgrif Priodas:
- Dyddiad a lleoliad y briodas
- Enwau’r priodfab a’r briodferch
- Oed a swyddi’r ddau berson a briododd
- Cyfeiriad y ddau ar adeg y briodas
- Enw, cyfenw a swydd tadau’r ddau (os cofnodwyd nhw yn y gofrestr)
Tystysgrif Marwolaeth:
- Dyddiad a lleoliad y farwolaeth
- Enw’r ymadawedig cyn priodi (os yn berthnasol)
- Naill ai’r oed pan fu farw neu’r dyddiad a’r man geni
- Achos y farwolaeth
- Y swydd olaf a ddaliwyd a chyfeiriad yr ymadawedig (os mai benyw briod neu weddw yw hi, enw a chyfenw ei gŵr)
- Enw a chyfeiriad yr unigolyn a gofrestrodd y farwolaeth, yn cynnwys eu perthynas â’r ymadawedig