Mae cyllid Teithio Llesol Llywodraeth Cymru wedi’i ddyfarnu i gwblhau dyluniad manwl llwybr teithio llesol gwell sy’n cysylltu Sili â Cosmeston.
Mae'r gwaith yn cynnwys llwybr troed/llwybr beicio 1.6 milltir o Sili i Cosmeston a gwaith cysylltiedig i gynnwys cyfleusterau croesi a gwelliannau i gyffyrdd.
Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar opsiynau llwybrau ym mis Mawrth 2022. Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar y llwybr arfaethedig ym mis Ebrill 2023.
Argymhelliad o’r ymgynghoriad yn 2023 oedd archwilio’r hen reilffordd o Arlington Road i The Vineyard. Archwiliwyd hyn yn ystod BA23/24 a phenderfynwyd peidio â bwrw ymlaen â'r opsiwn hwn. Bydd y llwybr cerdded, olwynion a beicio gwell yn gadael Sili ar hyd Lavernock Road ac yn croesi i'r hen reilffordd yn The Vineyard. Bydd hwn wedyn yn cysylltu â'r llwybr presennol yn Railway Walk.
Bydd gwaith a gynllunnir yn ystod BA24-25 yn cynnwy trafodaethau gyda thirfeddianwyr, Cyfoeth Naturio Cymru ac adran gynllunio'r Cyngor.
Ymgynghoriad cyn gwneud cais Llwybr Teithio Llesol Sili i Cosmeston (diweddarwyd 01.10.24)
Rydym bellach ar y cam lle rydym yn cynnig cyflwyno cais cynllunio llawn ar gyfer sefydlu Llwybr Teithio Llesol o Sili i Cosmeston. Bydd y cais cynllunio llawn yn gofyn am ganiatâd cynllunio ar gyfer y canlynol:
'Darparu Llwybr Teithio Llesol, ramp, tirlunio a gwaith cysylltiedig o Sili i Cosmeston'.
Cyn cyflwyno'n ffurfiol i'r Awdurdod Cynllunio Lleol, mae'n ofynnol i ni ymgymryd â chyfnod o Ymgynghoriad Cyn-ymgeisio statudol, yn unol â Rhan 1A Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2016 (fel y'i diwygiwyd). Mae hyn yn rhoi cyfle i randdeiliaid allweddol a'r gymuned leol weld y wybodaeth sydd ar gael a gwneud unrhyw sylwadau mewn ymateb i'r cynigion drafft.
Rydym wedi cyhoeddi'r holl luniadau, adroddiadau a dogfennau ategol ychwanegol isod ar gyfer eich arolygiad. Dylai unigolion sy'n dymuno rhoi adborth ar y cynllun hwn wneud hynny erbyn 31 Hydref 2024. Argymhellir anfon eich sylwadau drwy e-bost at chloe.jones@arcadis.com neu drwy'r post at: Arcadis, Ystafell 4D, Hodge House, 114 – 116 Heol Eglwys Fair, Caerdydd, CF10 1DY.
Os nad ydych yn gallu cael gafael ar y dogfennau yn electronig, gallwch ofyn am gopïau o'r wybodaeth hon drwy gysylltu â Chloe Jones drwy e-bost ar chloe.jones@arcadis.com.
- Ffurflen gais;
- Cynllun o Leoliad y Safle;
- Cynllun Safle Presennol - tudalen 1;
- Cynllun Safle Presennol - tudalen 2;
- Cynllun Safle Presennol - tudalen 3;
- Trefniant Cyffredinol Arfaethedig - trosolwg;
- Trefniant Cyffredinol Arfaethedig - tudalen 1;
- Trefniant Cyffredinol Arfaethedig - tudalen 2;
- Trefniant Cyffredinol Arfaethedig - tudalen 3;
- Trefniant Cyffredinol Arfaethedig - tudalen 4;
- Trefniant Cyffredinol Arfaethedig - tudalen 5;
- Trefniant Cyffredinol Arfaethedig - tudalen 6;
- Trefniant Cyffredinol Arfaethedig - tudalen 7;
- Trefniant Cyffredinol Arfaethedig - tudalen 8;
- Trefniant Cyffredinol Arfaethedig - tudalen 9;
- Trefniant Cyffredinol Arfaethedig - tudalen 10;
- Trawstoriadau - tudalen 1;
- Trawstoriadau - tudalen 2;
- Manylion adeiladu ffensys a bolardiau;
- Datganiad Cynllunio;
- Datganiad Dylunio a Mynediad;
- Asesiad o’r Effaith ar Goedyddiaeth;
- Arfarniad Ecolegol Cychwynnol;
- Arolygon ac Adroddiad Ecoleg;
- Ymchwiliadau Geo-amgylcheddol / Tir;
- Asesiad/Datganiad Effeithiau Tirwedd a Gweledol;
- Treftadaeth Ddiwylliannol;
- Cynlluniau Tirlunio;
- Datganiad Seilwaith Gwyrdd.