Trefniadau Trafnidiaeth Ysgolion Prif Ffrwd ar Gyfer 2024-25
Bydd rhieni/gofalwyr yn cael llythyrau, fel sy’n arferol dros yr haf, yn rhoi gwybod iddynt am y gwasanaeth y bydd eu plant wedi’u neilltuo iddo, gyda rhybudd y dylent fynd i’r dudalen we trafnidiaeth ysgol i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
Disgyblion â hawl
Mae disgyblion o’r Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 11 yn cael eu hasesu’n awtomatig ar gyfer trafnidiaeth ysgolion prif ffrwd am ddim. Mae disgyblion oedran ysgol gynradd yn gymwys i gael trafnidiaeth ysgol am ddim os ydynt yn byw mwy na 2 filltir i ffwrdd o’u hysgol ddalgylch, neu’r un agosaf nesaf os yw un y dalgylch yn llawn. Mae disgyblion oedran ysgol uwchradd yn gymwys i gael trafnidiaeth ysgol am ddim os ydynt yn byw mwy na 3 filltir i ffwrdd o’u hysgol ddalgylch, neu’r un agosaf nesaf os yw un y dalgylch yn llawn.
Nid oes angen cwblhau na llofnodi unrhyw ffurflenni a chaiff llythyrau/pasiau/amserlenni eu hanfon yn uniongyrchol i gyfeiriadau cartref erbyn dydd Gwener 23 Awst 2024.
Dim ond disgyblion sydd wedi cofrestru’n hwyr, sydd wedi symud i gyfeiriad newydd neu a fydd yn dechrau cyrsiau addysg ôl-16 (Blwyddyn 12) ym mis Medi fydd yn gorfod cysylltu â’r Tîm Trafnidiaeth Ysgol:
-
Derbyniadau Newydd - Dosbarth Derbyn a Blwyddyn 7
Mae’r holl ddisgyblion yn y Dosbarth Derbyn a Blwyddyn 7 wedi’u hasesu a chaiff llythyr/pàs bws ei (h)anfon i gyfeiriad cartref y disgyblion cymwys erbyn dydd Gwener 23 Awst 2024. Felly os oes unrhyw broblemau, bydd gennym ddigon o amser i wneud newidiadau dros wyliau’r haf. Os nad ydych wedi derbyn eich pàs bws neu lythyr erbyn dydd Gwener 23 Awst 2024, cysylltwch â’r Tîm Trafnidiaeth Ysgol:
-
Bydd yr holl ddisgyblion sydd wedi cael trafnidiaeth ysgol am ddim eleni’n derbyn llythyr/pàs bws yn awtomatig a gaiff ei anfon i gyfeiriad y rhiant/gwarcheidwad (cysylltwch â ni os ydych wedi symud yn ddiweddar) ynghyd â chrynodeb o’r polisi, y cod ymddygiad teithio ac amserlen y llwybr. Os nad ydych wedi derbyn eich pàs bws neu eich llythyr erbyn dydd Gwener 23 Awst 2024, cysylltwch â’r Tîm Trafnidiaeth Ysgol:
-
Disgyblion Ôl-16 (Blwyddyn 12 i Flwyddyn 13)
Bydd angen i ddisgyblion sy’n dechrau ym Mlwyddyn 12 ac sydd am barhau gyda’u hastudiaethau o fis Medi 2024 ymlaen (yn eu hysgol ddalgylch neu yng Ngholeg Dewi Sant) roi gwybod i’r Tîm Trafnidiaeth Ysgol erbyn dydd Llun 26 Awst 2024 fan pellaf er mwyn derbyn eu pàs ar gyfer dechrau mis Medi.
E-bostiwch schooltransport@valeofglamorgan.gov.uk cyn gynted â phosibl gyda’r wybodaeth ganlynol:
Sylwer: Mae’r disgyblion hynny sy’n gymwys am drafnidiaeth ysgol am ddim yn cytuno i gydymffurfio â pholisi trafnidiaeth Ysgolion Cyngor Bro Morgannwg a chod ymddygiad teithio Llywodraeth Cymru.