Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dewch o hyd i wybodaeth am grantiau a budd-daliadau sydd ar gael a dysgwch ba gymorth a chefnogaeth y mae gennych hawl iddynt.
Gallwch ddefnyddio ein cyfrifiannell fudd-daliadau ar-lein i ddarganfod pa fudd-daliadau y gallwch eu cael. Peidiwch â chymryd yn ganiataol na fydd gennych hawl i unrhyw beth. Bydd angen gwybodaeth arnoch am gynilion, incwm, pensiwn, taliadau gofal plant ac unrhyw fudd-daliadau presennol (i chi a'ch partner).
Cyfrifiannell fudd-daliadau ar-lein
Os ydych ar incwm isel, efallai y byddwch yn gymwys i hawlio Gostyngiad y Dreth Gyngor.
Os ydych ar incwm isel, yn ddi-waith neu os na allwch weithio, efallai y bydd modd i chi gael help gyda'ch costau byw. Gwiriwch a oes gennych hawl i Gredyd Cynhwysol.
Gallech gael £76.75 yr wythnos os ydych yn gofalu am rywun am o leiaf 35 awr yr wythnos a’i fod yn derbyn budd-daliadau penodol. Dysgwch a allwch fanteisio ar hynny, a gwneud cais.
Efallai eich bod yn gymwys i dderbyn gostyngiad Treth Gyngor os oes nam meddyliol difrifol gennych neu os ydych yn bodloni meini cymhwysedd eraill. Mae gostyngiadau band Treth Gyngor person anabl hefyd ar gael. Nid yw incwm yn berthnasol i’r rhain.
Mae'n bosib y byddwch yn gymwys i hawlio Credyd Pensiwn os ydych chi dros oedran pensiwn y wladwriaeth. Mae'n bosib y byddwch yn gymwys i gael ychwanegiad i’ch incwm wythnosol fel eich bod yn derbyn £182.60 yr wythnos fel person sengl a £278.70 fel cwpl.
Os ydych ar incwm isel, efallai y bydd modd i chi gael help gyda'ch rhent. Gwiriwch a ydych yn gymwys i hawlio Budd-dal Tai.
Gallech gael Taliad Costau Angladd (a elwir hefyd yn Daliad Angladd) os ydych yn cael budd-daliadau penodol ac mae angen help arnoch i dalu am angladd rydych yn ei drefnu.
Mae teuluoedd ledled Cymru yn teimlo'r straen ar gyllidebau eu cartrefi oherwydd costau byw cynyddol, gan wneud cymorth ychwanegol yn bwysicach nag erioed.
Nid yw llawer o bobl yn ymwybodol y gallent fod yn gymwys i gael budd-daliadau a allai gynnig y cymorth sydd ei angen arnynt.
Os nad ydych yn siŵr pa fudd-daliadau y gallwch eu hawlio, cysylltwch â llinell gymorth am ddim Advicelink Cymru:
Advicelink Cymru
Browser does not support script.