Gweddarlledu - Cofiwch bod rhai cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg yn cael eu darlledu, cewch wybod ar lafar os bydd y cyfarfod yr ydych chi ynddo yn cael ei ddarlledu.
Os bydd yn cael ei ddarlledu, mae’n golygu eich bod chi’n cael eich recordio’n weledol ac o ran sain a bydd hynny ar gael ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd.
Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol.
Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn. Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk /.
Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor ar dpo@valeofglamorgan.gov.uk. - Cyngor Bro Morgannwg