Cost of Living Support Icon

Cyfranogiad Cyhoeddus yng Nghyfarfodydd y Cyngor

Gall aelodau’r cyhoedd gymryd rhan mewn amryw o gyfarfodydd y Cyngor a Phwyllgorau a gynhelir gan Gyngor Bro Morgannwg

   

question-mark

Cwestiynau gan y Cyhoedd yng Nghyfarfodydd y Cyngor 

Gall unrhyw un sydd â’i enw ar Gofrestr Etholiadol Bro Morgannwg, neu sy’n drethdalwr neu’n dalwr trethi busnes ym Mro Morgannwg ofyn cwestiwn yng nghyfarfodydd y Cyngor.

 

Mae hyn yn amodol ar gyflwyno cwestiwn ymlaen llaw sy’n cael ei dderbyn cyn y cyfarfod. Cofrestrwch i ofyn cwestiwn yn un o gyfarfodydd y Cyngor drwy lenwi’r ffurflen ar-lein isod.  Rhaid derbyn y cwestiynau o leiaf ddeg diwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod.  (Nodwch y math o gwestiynau y gellir eu gofyn - gweler y ddolen isod).


Cofrestru i ofyn cwestiwn  

  • Pa fath o gwestiwn galla i ei ofyn? 

    Gallwch ofyn cwestiynau am yr isod:

    - polisïau’r Cyngor 

    - gwaith y Cyngor yng nghyd-destun unrhyw fater sy’n effeithio ar Fro Morgannwg

    - Gall aelod o'r cyhoedd neu sefydliad ofyn un cwestiwn o dan Reol cyfarfodydd arferol y Cyngor

     
  • Ni dderbynnir cwestiynau os ydynt yn: 

    - ymwneud â materion nad yw’r Cyngor yn gyfrifol amdanynt neu nad sy’n effeithio’n uniongyrchol ar Fro Morgannwg

    - enllibus, yn benchwiban neu’n sarhaus

    - ymwneud â chwyn (dylid cyflwyno’r rhain drwy system cwynion ffurfiol y Cyngor)

    - berthnasol i’r holwr ei hun neu ei deulu

    - ymwneud â chais cynllunio penodol neu gais am drwydded

    - berthnasol i Aelod Etholedig, aelod o staff y Cyngor neu aelod o’r cyhoedd yn benodol

    - rhy debyg i gwestiwn a ofynnwyd eisoes yn un o gyfarfodydd y Cyngor o fewn y chwe mis diwethaf

    - gofyn am ddatgelu gwybodaeth gyfrinachol neu sydd wedi’i heithrio

    - gofyn am ateb a fyddai’n golygu amser, ymdrech neu wariant anghyfartal i’w baratoi 

    - yn cael eu derbyn o leiaf 10 diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. (Calendr y Cyfarfodydd

     
  • Beth fydd y drefn yng nghyfarfod y Cyngor?  
    Bydd y Maer yn eich gwahodd i ofyn eich cwestiwn i’r Aelod Cabinet perthnasol. Os na allwch fod yn bresennol ar y diwrnod, gellir gofyn i Reolwr Gyfarwyddwr y Cyngor ofyn y cwestiwn i’r Maer ar eich rhan a threfnu bod ateb ysgrifenedig ar gael i chi.  
  • Pwy all siarad?  
    Unrhyw un sydd â’i enw ar Gofrestr Etholiadol Bro Morgannwg, neu sy’n drethdalwr neu’n dalwr trethi busnes ym Mro Morgannwg. Mae hyn yn amodol ar gyflwyno cwestiwn ymlaen llaw sy’n cael ei dderbyn.  
  • Sut bydd cwestiynau’n cael eu trefnu?  
    Bydd cwestiynau’n cael eu hateb yn y drefn y derbyniwyd nhw gennym, er y gellir coladu cwestiynau tebyg at ei gilydd.  
  • Pryd ac ymhle y cynhelir y cyfarfodydd (gellir cynnal cyfarfodydd o bell)?

     

    Cynhelir Cyfarfodydd y Cyngor yn Siambr y Cyngor yn y Swyddfeydd Dinesig, Holton Road, Barri. Map  
  • Faint o amser fydd gen i i siarad yn y cyfarfod?  
    Caniateir uchafswm o 30 munud ar gyfer yr holl gwestiynau.  
  • Beth os na fydd amser yn caniatáu i mi siarad?  
    Er ei bod yn annhebygol, os na cheir ateb i’ch cwestiwn naill ai oherwydd diffyg amser, absenoldeb yr Aelod Cabinet perthnasol a fyddai wedi eich ateb, neu unrhyw reswm arall, caiff ei ateb yn y cyfarfod nesaf neu, ar eich cais, gellir trefnu ateb ysgrifenedig.  

 

 

Petitions

Deisebau (gan gynnwys E-Ddeisebau)

Mae deisebau'n gais ysgrifenedig ffurfiol, fel arfer un wedi'i lofnodi gan lawer o bobl, sy'n apelio mewn perthynas ag achos penodol.

 

  • Dechrau deiseb ar-lein

     Cynghorir unrhyw un sy'n dymuno cyflwyno deiseb i'r Cyngor i ddarllen y Wybodaeth am Ddeisebau cyn cyflwyno’r ddeiseb honno.

     

     

    Os nad ydych wedi cofrestru o'r blaen:

     

    -   Cofrestrwch eich manylion. Anfonir e-bost dilysu gyda dolen actifadu i'ch cyfrif e-bost enwebedig.

    -   Ar ôl i chi actifadu eich cofrestriad, mewngofnodwch a chwblhewch y Ffurflen Ddeisebu Ar-lein isod.

  • Llofnodi Deiseb Ar-lein

     
     Os nad ydych wedi cofrestru o'r blaen:

     

     

    -   Cofrestrwch eich manylion. Anfonir e-bost dilysu gyda dolen actifadu i'ch cyfrif e-bost enwebedig.

    Ar ôl i chi actifadu eich cofrestriad, mewngofnodwch a dewiswch y ddeiseb yr hoffech ei chefnogi o'r rhestr Deisebau Agored isod.

     

    Os ydych wedi cofrestru o’r blaen, mewngofnodwch a dewiswch y ddeiseb yr hoffech ei chefnogi o'r rhestr Deisebau Agored isod.

 

 

 

Section of Vale map

Bod yn rhan o Gyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio

Yn ogystal ag ymateb i ymgynghoriadau a gynhelir ar gynllunio a materion cysylltiedig, os a phan fydd y Pwyllgor Cynllunio’n ystyried cais am ddatblygiad newydd, mae darpariaeth i aelodau’r cyhoedd siarad yn y cyfarfod Pwyllgor hwnnw.

 

** SYLWCH: Oherwydd cyfyngiadau cyfredol ac ni fydd y gofyniad am gyfarfodydd Cyngor pellhau cymdeithasol yn cael eu cynnal yn eu lleoliad arferol. Bydd cyfarfodydd y Cyngor yn cael eu cynnal fwy neu lai a bydd ‘presenoldeb’ yn cael ei gyfyngu i Aelodau’r Cyngor, swyddogion perthnasol ac unrhyw rai sydd wedi cofrestru i siarad ‘partïon â diddordeb’ lle bo’n briodol. Ni fydd y cyfarfodydd hyn yn cael eu gweddarlledu yn fyw ond yn cael eu recordio i'w trosglwyddo wedi hynny trwy wefan gyhoeddus y Cyngor.

 

Mae Canllawiau i Siarad yn Gyhoeddus mewn Cyfarfod Pwyllgor Cynllunio ar gael sy’n egluro’r broses a sut i gofrestru i siarad. 

 

 

Noder: 

Daw'r ffenestr ar gyfer cofrestru i siarad yn weithredol am 8.30am y diwrnod ar ôl cyhoeddi'r agenda.

 

Gofynnir i aelodau’r cyhoedd sy’n dymuno siarad ar unrhyw gais Cynllunio isod gofrestru i siarad drwy wefan Cyngor y Fro erbyn 5.00 p.m. fan bellaf. ar y dydd Sul cyn dyddiad y cyfarfod ac ystyried Polisi Cyfarfodydd Aml-leoliad y Cyngor.

 

Dim ond i siarad ar eitem sydd wedi'i chyhoeddi ar agenda y mae'n bosibl cofrestru. Felly, gwiriwch agenda berthnasol y Pwyllgor cyn cofrestru i siarad. [Gweld yr Agendâu Cynllunio]

 

Cofrestru i Siarad 

 

Council-chamber

Bod yn Rhan o Gyfarfodydd Pwyllgorau Craffu 

Mae’r pwyllgorau craffu yn rhoi cyfle i’r cyhoedd fod yn rhan o weithgareddau’r Cyngor.   

 

Mae darpariaeth ar gyfer siarad cyhoeddus mewn cyfarfodydd Pwyllgorau Craffu. Mae Canllawiau ar Gyfranogiad Cyhoeddus ar gael sy’n egluro’r broses a sut i gofrestru i siarad.

  

 

Llenwch y ffurflen berthnasol i gofrestru i siarad mewn cyfarfod pwyllgor craffu:

 

 

 

coast walking boots

Bod yn Rhan o Is-bwyllgor Hawliau Tramwy Cyhoeddus 

Mae darpariaeth ar gyfer siarad cyhoeddus yng nghyfarfodydd Is-bwyllgor Hawliau Tramwy Cyhoeddus.  

 

Mae Canllaw i Siarad yn Gyhoeddus mewn Is-bwyllgor Hawliau Tramwy Cyhoeddus ar gael sy’n egluro’r broses a sut i gofrestru i siarad: 

 

 

Nodwch:

Daw’r ffenestr ar gyfer cofrestru i siarad yn weithredol am 8.30 a.m. y diwrnod ar ôl anfon yr agenda gyhoeddedig a daw i ben am 5.00 p.m. (neu 4.30 p.m. ar ddydd Gwener) 3 ddiwrnod gwaith clir cyn cyfarfod y Pwyllgor. Dim ond yn ystod y cyfnod hwn y gellir llenwi'r ffurflen gofrestru.

 

Cofrestru i siarad 

  

Mae mwy o wybodaeth am sut mae’r Gwasanaethau Democrataidd yn trin eich Data Personol yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau yma.