Cost of Living Support Icon

Safleoedd Ymgeisiol

Yn dilyn cyhoeddi’r Cytundeb Cyflawni, yr alwad am Safleoedd Ymgeisiol yw'r cam ffurfiol cyntaf o baratoi'r CDLlN. Gwahoddwyd partïon â diddordeb (e.e. datblygwr neu dir-berchennog) i gyflwyno safleoedd y cyfeirir atynt fel 'Safleoedd Ymgeisiol' i’r Cyngor i'w dyrannu o bosib yn y CDLlN rhwng 20/6/22 a 13/9/22. 

 

Ail Alwad am Safleoedd

Mae methodoleg safle ymgeisiol yn nodi y byddai ail alwad am safleoedd ymgeisiol yn digwydd yn ystod yr ymgynghoriad ar Strategaeth a Ffefrir y CDLlN. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad hwn rhwng 6 Rhagfyr 2023 a 14 Chwefror 2024 ac roedd yn cynnwys ail alwad am Safleoedd Ymgeisiol.

 

Nid yw cynnwys safle ar y Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol yn awgrymu y caiff ei ddyrannu yn y CDLlN, nac yn awgrymu unrhyw ffafriaeth gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol ynghylch ei rinweddau. Nid dogfen ymgynghori cyhoeddus yw’r gofrestr hon; ond datganiad o ffaith o'r holl safleoedd ymgeisiol sydd wedi eu cyflwyno yn ystod y cam hwn.

 

Derbyniwyd nifer o sylwadau yn yr ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir a oedd yn gofyn am addasiadau i safleoedd ymgeisiol a gyflwynwyd yn yr alwad wreiddiol. Mewn mannau, cafodd y rhain eu trin fel diwygiadau i gyflwyniadau presennol. Fodd bynnag, pan dderbyniwyd sylwadau a oedd yn newid natur cyflwyniad yn sylweddol, sefydlwyd ffeiliau safle ymgeisiol newydd er mwyn gallu asesu'r cyflwyniadau hyn ar wahân i'r cyflwyniad gwreiddiol.

 

Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol

 

Galw am Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr

 

Yn dilyn yr ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir, mae'r Cyngor bellach yn cynnal galwad benodol am safleoedd ymgeisiol Sipsiwn a Theithwyr. 

 

Bydd yr 'Alwad' am safleoedd ymgeisiol yn rhedeg rhwng dydd Llun 19 Chwefror a hanner nos ddydd Llun 1 Ebrill 2024.

                                                                                     

Dylai safleoedd a gyflwynir fod o leiaf 0.5 hectar ac, yn ddelfrydol, wedi’u lleoli o fewn pellter rhesymol i wasanaethau a chyfleusterau, ar dir gwastad gyda mynediad da, a gyda chyfleustodau cyffredinol neu'r cyfle i ddarparu cyfleustodau cyffredinol. 

 

O ystyried natur benodol yr 'Alwad', nid oes angen i safleoedd a gyflwynir gydymffurfio â'r strategaeth a ffefrir CDLlN gyffredinol ac nid yw'n ofynnol iddynt gael eu cefnogi gan asesiad hyfywedd. Ystyrir pob safle a gyflwynir yn erbyn y meini prawf cyffredinol a nodir yn y fethodoleg Asesu Safleoedd Ymgeisiol.

 

Nid yw cyflwyno safle yn rhoi unrhyw statws ar y safle ac ni fydd y Cyngor yn ystyried defnydd arall ar gyfer safleoedd a gyflwynir, dim ond ar gyfer llety sipsiwn a theithwyr.

 

Mae'r ffurflen Safle Ymgeisiol Sipsiwn a Theithwyr ar gael yma:

 

Ffurflen Safle Ymgeisiol Sipsiwn a Theithwyr

 

 

Y Broses Safleoedd Ymgeisiol 

Mae'r Alwad am Safleoedd Ymgeisiol yn gam pwysig ym mhroses casglu tystiolaeth y Cyngor i lywio'r gwaith o ddrafftio'r CDLl newydd yn y dyfodol.  Mae'n ofynnol i gynigwyr ddarparu tystiolaeth addas i ddangos cynaliadwyedd, dichonoldeb cyflawni a hyfywedd ariannol safleoedd yn gadarn.

 

Mae tystiolaeth fanwl ymlaen llaw ac yn gynnar ym mhroses llunio cynlluniau, fel rhan o'r cam Safle Ymgeisiol, yn hanfodol er mwyn llywio'r gwaith o gyflawni'r Strategaeth a Ffefrir a chamau dilynol y cynllun. Bydd yn rhaid i unrhyw safleoedd a gyflwynir cynnwys tystiolaeth ategol, neu gellid eu diystyru. Rhaid i’r tystiolaeth hwn yn cynnwys model hyfywedd y datblygiad. Am fwy o wybodaeth, ewch ir dudalen isod.

 

Yn unol â hynny, lluniwyd Nodyn Cyfarwyddyd Safleoedd Ymgeisiol (pdf) a Methodoleg Asesu Safleoedd Ymgeisiol (pdf) i gynorthwyo cynigwyr Safleoedd Ymgeisiol gyda'u cyflwyniad, gan roi rhagor o fanylion am y mathau o safleoedd sy'n debygol o fod yn dderbyniol a'r wybodaeth y mae'n ofynnol ei chyflwyno i gefnogi eu cynnig safle ymgeisiol.

 

Bydd y cynigion safeloedd ymgeisiol a dderbynir yn ystod yr ymgynhoriad yn cael eu hystyried ar gyfer y CDLl newydd, a’u hasesu yn erbyn y methodoleg asesu gymeradwy. Bydd y canlyniadau yn cael eu cyhoeddi yn ystod y cam adneuo.

 

Cafwyd rhagor o fanylion am gyflwyno safleoedd ymgeisiol yn ystod yr ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir ar ein porth ymgynghori. 

 

Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol

Mae'r Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol yn gofnod o'r holl safleoedd a gyflwynwyd i'r Cyngor fel rhan o'r Alwad am Safleoedd Ymgeisiol a gynhaliwyd rhwng 17 Mehefin a 13 Rhagfyr 2022. Diben y gofrestr hon yw nodi pa dir a allai fod ar gael i'w ddyrannu yn y Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN). Bydd y cofrestr mwyaf diweddar yn cael ei gyhoeddi yn dilyn yr ail-alwad.

 

Mae cam 1 a 2 or asesiad safleoedd ymgeisiol wedi eu gwblhau ac mae’r canlyniadau ar gael i’w weld yng nghofrestr Cam 2 or safleoedd ymgeisiol. Mae’r safleoedd a fethwyd yng ngham 1 hefyd wedi eu cynnwys.

 

Fodd bynnag, mae'n bwysig nodi nad yw cyflwyno safleoedd a’u cynnwys yn y Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol yn gwarantu y byddant yn cael eu dwyn ymlaen i'r CDLlN Ar Adnau. Bydd safleoedd ymgeisiol yn destun proses asesu gadarn i bennu eu haddasrwydd neu fel arall i'w dyrannu.

 

Gellir dod o hyd i'r Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol a'r Asesiad Cam 2 ar ein porth ymgynghoriadau ar-lein:

 

 Porthle ar-lein

 

Main Welsh

 

Stage 2 CS Register CY

 

Gall y fersiynau PDF gael eu gweld gan ddilyn y dolenni isod:

Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol 

Cofrestr Asesu Safleoedd Ymgeisiol Cam 2 

Cysylltwch â ni:

Os hoffech unrhyw wybodaeth bellach neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Tîm CDLl ar: