Hafan >
Byw >
Ysgolion >
Consultation on Transforming English Medium Secondary Education in Barry
Trawsnewid Addysg Uwchradd yn y Barri
Sefdlu dwy ysgol gyfun rhyw cymysg newydd
Y Cefndir
Yn 2016 ymgynghorodd Cyngor Bro Morgannwg ar gynnig sefydlu dwy ysgol gyfun rhyw cymysg i ddisgyblion 11–18 oed yn y Barri.
Ar 6 Mawrth 2017, penderfynodd Cabinet Cyngor Bro Morgannwg ar gynnig i drawsffurfio addysg uwchradd yn y Barri drwy gau Ysgolion Cyfun y Barri a Bryn Hafren cyfrwng Saesneg un rhyw presennol a sefydlu dwy ysgol gyfun newydd rhyw cymysg, 11 - 18, cyfrwng Saesneg ar safleoedd cyfredol Ysgol Gyfun y Barri ac Ysgol Gyfun Bryn Hafren o fis Medi 2018 ymlaen.
Newyddion Diweddaraf
I gadw’n gyfredol â’r newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf, gweler ein tudalennau gwe pwrpasol Trawsnewid Addysg Uwchradd yn Y Barri.
Chwilio am ddalgylch
Rhowch eich cod post yn y blwch isod.
Gallwch chi hefyd lawrlwytho rhestr o gyfeiriadau sydd wedi eu lleoli o fewn dalgylchoedd arfaethedig yr ysgolion newydd.
Gwybodaeth bellach
Ceir yma wybodaeth fanylach am y cynnig a sut y gallai effeithio arnoch chi yn y ddogfen ymgynghori, y llythyr i’r rhanddalwyr a’r asesiad effaith cymunedol isod.
Adroddiad yr Ymgynghoriad
Mae’r awdurdod yn ddiolchgar i bawb a roddodd o’u hamser i ystyried ein cynnig a’r rhai hynny a roddodd wybod i ni am eu barn. Ystyriwyd yr holl sylwadau gan Gabinet y Cyngor ar 12 Rhagfyr 2016.
Mae Adroddiad yr Ymgynghoriad ar gael i’w lawrlwytho neu mae copïau caled o’r adroddiad ar gael ar gais trwy gysylltu â'r Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.
Adroddiad gweithdy ymgynghori ysgolion cynradd
Cyhoeddi Hysbysiad Statudol i sefydlu ysgolion uwchradd cymysgryw Cyfrwng Saesneg newydd yn y Barri
Mae Cabinet y Cyngor wedi cytuno i gyhoeddi hysbysiad statudol i sefydlu ysgolion uwchradd cymysgryw cyfrwng Saesneg newydd yn y Barri. Bydd yr hysbysiad yn rhedeg o 3 Ionawr 2017 tan 31 Ionawr 2017.
Penderfyniad
Mae’r hysbysiad statudol ar gael i’w lawrlwytho neu mae copïau caled ar gael ar gais trwy gysylltu â'r Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau, manylion isod.
Dylid anfon gwrthwynebiadau at Paula Ham, Cyfarwyddwr Dysgu a Sgiliau Dros Dro, manylion isod.
Mae'r llythyr penderfyniad a’r adroddiad ar y gwrthwynebiad ar gael i'w lawrlwytho neu mae copïau caled ar gael ar gais drwy gysylltu â'r Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau, gweler manyloion cyswllt isod.
Cysylltu
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â’r Tîm Trefnu Ysgolion.
Cyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau
Swyddfeydd Dinesig
Heol Holltwn
Y Barri
CF63 4RU