Cost of Living Support Icon

Gofal yn Eich Cartref Eich Hun 

Byddai'n well gan y rhan fwyaf o bobl fyw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain mor hir ag sydd bosibl, ac weithiau mae angen ychydig o help ychwanegol arnynt i wneud hynny'n ddiogel.

 

Gall angen gofal a chymorth godi am bob math o resymau a gall fod yn barhaol neu dros dro. Os oes angen cymorth arnoch gartref oherwydd eich bod yn mynd yn hŷn, yn fregus neu os oes gennych anabledd hirdymor, mae'n debygol y bydd hyn yn golygu rhywfaint o gymorth gyda'ch gofal personol. Gallai hyn fod yn gymorth gyda ymolchi, paratoi prydau bwyd neu gymryd meddyginiaeth.

 

Efallai bod angen rhywfaint o help arnoch o amgylch y tŷ? Efallai bod arnoch angen i rywun wneud eich gwaith cynnal a chadw, glanhau neu siopa yn y cartref? 

 

Mae cymorth ar gael i helpu pobl i fyw'n ddiogel yn eu cartref eu hunain. Gall gofalwr ymweld â chi i helpu gyda thasgau dyddiol, siopa ac ati. Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion yn gweithio mewn partneriaeth â darparwyr gofal cymdeithasol yn y sector annibynnol.  

 

Darparwyr Gofal Cartref Cymeradwy

Mae’r rhestr o Ddarparwyr Gofal Cymeradwy yn rhoi gwybodaeth am ddarparwyr gofal cymdeithasol sydd wedi’u cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru ac sydd wedi’u cymeradwyo neu eu hachredu i ddarparu gwasanaethau gofal ar ran Cyngor Bro Morgannwg. 

 


Yr Holl Ddarparwyr Gofal Cartref

Mae llawer o ddarparwyr gofal cartref eraill ar gael yn y Fro hefyd. Ewch i wefan Dewis Cymru i weld rhestr gyflawn:

 

Eich Dewis

Mae Gofal Gartref Eich Dewis yn rhoi mwy o ddewis a rheolaeth i chi dros eich gofal cartref. Trwy weithio mewn partneriaeth â'ch gweithwyr gofal gallwch gynllunio pryd y byddwch yn derbyn eich gofal a'r canlyniadau yr hoffech eu cyflawni. 

 

 

 

Gwneud cais am Asesiad

Efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol:

 

 

Gwybodaeth ychwanegol:

 

Dewis Cymru Logo New

Dewis Cymru

Dewis Cymru yw'r lle i fynd i gael gwybodaeth am wasanaethau i gefnogi eich iechyd a'ch lles. Efallai y bydd y dolenni isod yn ddefnyddiol a gallwch hefyd wneud eich chwiliad eich hun:

 


Nid yw rhestru sefydliad ar Dewis Cymru yn golygu bod Cyngor Bro Morgannwg yn cymeradwyo’r sefydliad hwnnw, ac nid yw peidio â rhestru unrhyw sefydliad yn golygu nad ydym yn ei gefnogi ychwaith.