Addasiadau
Mae nifer o addasiadau y gellir eu gwneud yng nghartref unigolyn i'w alluogi i fynd o gwmpas yn annibynnol ac yn ddiogel. Gall y rhain gynnwys:
-
Ei gwneud yn haws mynd i mewn ac allan o eiddo drwy, er enghraifft, osod rheiliau, lledu drysau a gosod rampiau
-
Ei gwneud yn haws mynd o gwmpas yn y tŷ a chyrraedd yr ystafell wely, ystafell fyw, ystafell ymolchi a thoiled. Gall hyn fod drwy ddarparu rheiliau grisiau a gafael, gosod lifft neu addasu'r ystafell ymolchi gyda rheiliau neu gawod.
-
Gwella goleuadau ar gyfer person â nam ar y golwg.
-
Gwella mynediad a symud o amgylch y cartref i alluogi'r person anabl i ofalu am berson arall sy'n byw yn yr eiddo, megis priod, plentyn neu berson arall y mae'r person anabl yn gofalu amdano.
Gwella mynediad i'r ardd lle bo hynny'n ymarferol.
Ni chodir tâl am fân waith sy'n costio llai na £1,000. Caiff y rhain eu hadnabod yn dilyn asesiad gan y tîm perthnasol.
Bydd gwaith sy'n costio dros £1,000 mewn cartrefi preifat neu gartrefi sy'n cael eu rhentu'n breifat yn destun asesiad ariannol (os yw’r person sydd angen y gwaith dros 18 oed). Maen nhw’n cael eu darparu drwy Grant Cyfleusterau i'r Anabl.
Os oes angen gwaith mewn eiddo sy'n eiddo i Gymdeithas Dai, bydd y Therapydd Galwedigaethol yn cwblhau asesiad. Yna anfonir cais at y Gymdeithas Dai er mwyn iddynt drefnu cwblhau'r gwaith a argymhellir.