Cost of Living Support Icon

Cynhalwyr Ifanc

Mae gofalwr ifanc yn berson ifanc o dan 18 oed sy’n darparu cefnogaeth a gofal i rywun ag anabledd, salwch, cyflwr iechyd meddwl gwael, neu sydd â dibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol.  Gall gofalwr ifanc ddarparu cymorth a gofal i rywun maen nhw’n byw gyda nhw, a allai fod yn rhieni, brodyr a chwiorydd, neiniau a theidiau ac ati.

 

Mae gofalwyr ifanc hŷn (oed 18-25) hefyd yn cael eu galw'n oedolion ifanc sy’n ofalwyr ac efallai bod ganddyn nhw anghenion cymorth gwahanol i ofalwyr iau.

 

Gallant ddarparu gofal ymarferol neu gorfforol, helpu gyda gofal personol, a helpu gyda thasgau domestig a / neu gefnogaeth emosiynol.

 

Mae cynhalwyr ifanc yn ysgwyddo cyfrifoldebau difrifol. Ar ben dyletswyddau gofal megis gwaith tŷ, coginio ac ymolchi, rhaid iddynt fynd i’r ysgol, ac yn aml iawn, fydd eu cyfoedion ddim yn deall dim am y pwysau sydd arnyn nhw. 

 

Faint o ofalwyr ifanc sydd yna?

"Dangosodd Cyfrifiad 2021 fod 120,000 o gofalwyr ifanc, rhwng 5 a 17 oed, yn Lloegr ac 8,200 yng Nghymru. 

 

Y gred gyffredinol yw fod mwy i hyn nac a welir, ac mae rhai amcangyfrifon yn awgrymu fod cymaint ag un plentyn ysgol o bob pump yn ofalwyr ifanc, ac mae’r nifer hwn wedi cynyddu yn ystod pandemig COVID-19." (Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru). 

Asesiad Cynhalydd

Gall cynhalwyr ifanc wneud cais i dderbyn asesiad. Bydd asesiad yn rhoi cyfle i chi siarad â rhywun
am y math o gefnogaeth a allai hwyluso eich dyletswyddau gofal. 

Asesiad Cynhalwyr Ifanc

 

 

YMCA-logo

Prosiect Gofalwyr Ifanc y Fro                                  

Mae’r prosiect gofalwyr ifanc ym Mro Morgannwg yn cael ei redeg gan YMCA Caerdydd a’i ariannu gan Gyngor Bro Morgannwg.

 

Bydd y Prosiect hwn yn darparu gweithgareddau seibiant rheolaidd i ofalwyr ifanc yn y Fro, rhwng 7 a 18 oed, gan roi cyfle iddynt gymdeithasu, gwneud ffrindiau a chael hwyl!

 

Mae’r Clwb Ieuenctid Gofalwyr Ifanc yng Nghanolfan YMCA, Court Road, Y Barri, CF63 4EE, ar agor bob nos Iau a Gwener yn ystod y tymor. 

 

Mae'r oedrannau wedi eu rhannu ar draws y ddau ddiwrnod, gyda chlwb y plant iau (oedran ysgol gynradd) yn cael ei gynnal bob dydd Iau rhwng 4pm a 5:30pm yn ystod y tymor

 

a’r clwb hŷn (oedran ysgol gyfun) bob dydd Gwener rhwng 4pm a 5:30pm yn ystod y tymor.

 

Dim ond i bobl ifanc sydd wedi’u derbyn i’r prosiect y mae’r clwb hwn. 

Cysylltwch â'r Llinell Gyngor Teuluoedd yn Gyntaf i atgyfeirio