Cost of Living Support Icon

Y Cynnig Gofal Plant ym Mro Morgannwg

COFW048033 - banner_600x300px Welsh

Llinell gymorth Cynnig Gofal Plant Cymru

Rhif ffôn: 03000 628 628

 

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.Childcare Offer Logo 2024

 

Mae'r llinell gymorth ar agor:

 

  • Dydd Llun i ddydd Iau 9am i 5pm
  • Dydd Gwener 9am i 4:30pm

Pryd i wneud cais?

Bydd y broses ymgeisio’n agor 75 diwrnod cyn dechrau'r tymor. Gallwch gael rhagor o fanylion am y dyddiadau sy'n berthnasol i'ch plentyn o dan y tab 'Pryd i wneud cais?'.

 

Rhestr Bostio'r Cynnig Gofal Plant

Cofrestrwch i gael nodiadau atgoffa i wneud cais am ddyddiadau ymgeisio yn y dyfodol a derbyn diweddariadau eraill am y Cynnig yma:

Rheoli tanysgrifiadau - Polisi Preifatrwydd

 

  • Beth yw'r Cynnig Gofal Plant?

    Mae'r Cynnig Gofal Plant yn ariannu addysg feithrin a gofal plant i blant 3 i 4 oed, cyn iddynt ddechrau addysg llawn amser.  Mae'n cynnwys:

    Addysg Feithrin

    12.5 awr yr wythnos mewn meithrinfa ysgol.

    Mae angen i chi wneud cais drwy'r Tîm Derbyn i Ysgolion ar gyfer eich lle meithrin ysgol.

    Nid oes angen i chi fod yn gymwys i gael y Cynnig Gofal Plant i gael mynediad i Addysg Feithrin.

    I gael rhagor o wybodaeth, dyddiadau ymgeisio, a'ch cais, cliciwch yma i gael eich ailgyfeirio i: Derbyn i’r Ysgol Feithrin

     

      

     

     

     

    Cyllid Gofal Plant

    17.5 awr yr wythnos o gyllid ar gyfer darparwr gofal plant cofrestredig yn ystod y tymor.

    Hyd at 30 awr yr wythnos ar gyfer darparwr gofal plant yn ystod gwyliau’r ysgol, ar gyfer tair wythnos fesul tymor (cyfanswm o 9 wythnos y flwyddyn) 

    Cyfanswm o 48 wythnos o ofal plant wedi'i ariannu'r flwyddyn. Bydd angen i chi ariannu unrhyw ofal plant ychwanegol sydd ei angen arnoch.

     

     

     

     

    Y Cynnig Gofal Plant a Dechrau Addysg Feithrin

    Mae'r fideo hwn yn esbonio'r gwahaniaeth rhwng cyllid y Cynnig Gofal Plant a dechrau addysg feithrin ym Mro Morgannwg:

  • Plant ag Anghenion Ychwanegol

    Er mwyn sicrhau bod elfen gofal plant y Cynnig yn un cynhwysol i blant cymwys sydd angen cymorth ychwanegol, mae cymorth wedi'i ddarparu drwy gyfrwng ffrwd ariannu ar wahân, sef Grant Cymorth Ychwanegol Cynnig Gofal Plant Cymru. 

     

    Mae hyn yn cynnwys plant sydd â’r canlynol:

    • Anghenion dysgu ychwanegol

    • Anableddau

    • Anghenion iechyd

     

    Gellir defnyddio'r cyllid ar gyfer:

    • Hyfforddiant i ddarparwyr gofal plant

    • Staff ychwangeol

    • Offer

    • Addasiad ffisegol i leoliadau gofal plant

     

    Os oes gan eich plentyn anghenion cymorth ychwanegol, dylech wneud y canlynol:

    • Ar hyn o bryd nid yw'r rhiant/gofalwr yn gallu nodi ar ei ffurflen gais bod gan ei blentyn anabledd neu angen dysgu ychwanegol neu angen sy'n dod i'r amlwg. Cysylltwch â ni os ydych chi’n teimlo y gallai fod angen cymorth ychwanegol ar eich plentyn                

    • Gwneud cais fel arfer ac aros am benderfyniad

    • Ar ôl i’ch cais gael ei gymeradwyo, cysylltu â ni

     

    Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma:

    Grant Cymorth Ychwanegol Cynnig Gofal Plant Cymu 2021

     

    Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd yn ein Mynegai ar gyfer Plant ag Anableddau neu Anghenion Ychwanegol. Cofrestr wirfoddol Bro Morgannwg o blant a phobl ifanc sydd ag anableddau ac anghenion ychwanegol yw’r Mynegai.

     

    Nod y Mynegai yw rhoi darlun cliriach o nifer y plant a phobl ifanc sydd ag anableddau ac anghenion ychwanegol sy’n bodloni, a thrwy Grant Teuluoedd yn Gyntaf, mae’n ein galluogi i gydweithio gydag asiantaethau eraill i helpu i gydlynu gwasanaethau’n well. 

  • Pwy all wneud cais? 

    Gallwch wneud cais am ofal plant wedi'i ariannu yn yr amgylchiadau canlynol:

    • Rydych yn byw ym Cymru;
    • Mae eich plentyn yn 3 neu 4 oed.  Gweler y tabl isod ar gyfer dyddiadau cymhwysedd;
    • Rydych yn fyfyriwr Addysg Uwch neu Addysg Bellach sydd wedi cofrestru ar gwrs sy'n o leiaf 10 wythnos o hyd 

           NEU

    • Rydych chi’n gyflogedig neu'n hunangyflogedig ac rydych chi’n ennill o leiaf:
      • £183.04 yr wythnos os ydych yn 21 oed neu'n hŷn
      • £137.60 yr wythnos os ydych yn 18-20 oed neu'n hŷn

    (Mae’r cyfraddau hyn yn seiliedig ar 16 awr yr wythnos ar lefel y Cyflog Byw Cenedlaethol a'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer Ebrill 2023-Mawrth 2024 a byddant yn newid yn flynyddol.)

    • Rhaid eich bod yn ennill llai na £100,000 (incwm gros) y flwyddyn, fesul rhiant.  Os yw'r naill riant neu'r llall yn ennill dros £100,000 gros y flwyddyn, ni fyddwch yn gymwys i dderbyn y Cynnig Gofal Plant.

     

    Bydd angen i chi lanlwytho'r dogfennau ategol canlynol i’ch cais:

    • Tystysgrif geni eich plentyn;
    • Tystiolaeth o'ch cyfeiriad, e.e. eich llythyr treth Gyngor diweddaraf;
    • Eich slipiau cyflog o’r 3 mis diwethaf os ydych yn cael eich cyflogi;
    • Eich ffurflen dreth hunanasesiad ddiweddaraf os ydych yn hunangyflogedig;
    • Llythyr cofrestru/cadarnhad o le mewn Addysg Bellach neu Addysg Uwch.

     

    Bydd angen i chi lanlwytho tystiolaeth o gymhwysedd y ddau riant os ydych chi'n deulu â dau riant.

     

    Sylwer:

    • Mae'r term 'rhiant' yn cyfeirio at rieni, gwarcheidwaid cyfreithiol, llys-rieni, rhieni mabwysiadol, gofalwyr maeth, gwarcheidwaid, gofalwyr sy'n berthnasau, gofalwyr sydd â Gorchymyn Gwarchodaeth Arbennig a phartneriaid hirdymor sy’n byw yn yr un cartref â'r plentyn. 
    • Gall rhieni sydd ar absenoldeb mamolaeth/tadolaeth/rhiant/mabwysiadu ar hyn o bryd wneud cais am y Cynnig Gofal Plant os ydynt yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd uchod.
    • Mewn teulu rhiant sengl, mae'r meini prawf cymhwysedd uchod yn berthnasol i'r unig riant.  
    • Mewn teulu dau rieni, mae'r meini prawf cymhwysedd uchod yn berthnasol i'r ddau riant.  
    • Ni ellir cadarnhau cymhwysedd nes i ffurflen gais lawn gael ei derbyn a’i phrosesu gan y tîm Cynnig Gofal Plant a’ch bod wedi derbyn cadarnhad drwy e-bost.

     

    Eithriadau i'r Meini Prawf Cymhwysedd:

    • Mewn teulu dau riant lle bo un rhiant yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd a bod y rhiant arall yn derbyn budd-daliadau penodol, gallech chi fod yn gymwys i dderbyn y Cynnig Gofal Plant mewn rhai amgylchiadau. 

      Mae hyn yn seiliedig ar y rhiant yn derbyn, neu â hawl sylfaenol i dderbyn, un o'r budd-daliadau cymwys canlynol:

      • Budd-dal analluogrwydd;
      • Lwfans gofalwr;
      • Elfen Gofalwyr Credyd Cynhwysol;
      • Lwfans anabledd difrifol;
      • Budd-dal analluogrwydd hirdymor;
      • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (LCCh);
      • Credydau yswiriant gwladol ar sail analluogrwydd gweithio neu allu gweithio cyfyngedig;
      • Credyd Cynhwysol lle cafodd yr unigolyn ei asesu fel gallu cyfyngedig i weithio.

     

    • Ni fydd teuluoedd lle mae'r ddau riant yn derbyn y budd-daliadau uchod (neu sydd â hawl sylfaenol i'r budd-daliadau uchod), neu’r unig riant mewn teulu un rhiant, yn gallu cael mynediad i'r cynnig gofal plant.
    • Os bydd rhieni wedi gwahanu ond nid ydynt yn rhannu cyfrifoldeb cyfartal am warchod y plentyn, bydd y rhiant sydd â’r prif gyfrifoldeb gwarchod yn gymwys i ymgymryd â’r Cynnig (os bydd yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd).
    • Os bydd rhieni’n rhannu cyfrifoldeb gwarchod cyfartal, bydd angen i un rhiant gael ei enwebu fel y rhiant arweiniol ar gyfer y Cynnig.
    • Gallai rhieni sydd mewn addysg neu hyfforddiant ac sydd wedi atal eu hastudiaethau'n ffurfiol oherwydd salwch hirdymor barhau i fod yn gymwys i dderbyn y Cynnig Gofal Plant.
    • Gallai rhieni sy'n gyflogedig/hunangyflogedig ond sydd i ffwrdd o’r gweithle dros dro ar absenoldeb salwch statudol ddal i fod yn gymwys i dderbyn y Cynnig Gofal Plant.
  • Pryd i wneud cais

    Cyllid gofal plant: Pryd mae fy mhlentyn yn gymwys?

    Dyddiad geni rhwng

    Ceisiadau ar agor(nid oes dyddiad cau*) 

    Yn gymwys ar gyfer gofal plant wedi'i ariannu o 

    Yn gymwys ar gyfer gofal plant wedi'i ariannu tan 

    01/09/2020 - 31/12/2020

     06/11/2024 (Ar agor ar hyn o bryd)

     08/01/2024

     31/08/2025

    01/01/2021 - 31/03/2021  26/02/2024 (Ar agor ar hyn o bryd)  08/04/2024  31/08/2025
    01/04/2021 - 31/08/2021  19/06/2024 (Ar agor ar hyn o bryd)  02/09/2024  31/08/2025
    01/09/2021 - 31/12/2021  23/10/2024 (Ar agor ar hyn o bryd)  06/01/2025  31/08/2026
    01/01/2022 - 31/03/2022  10/02/2025  28/04/2025  31/08/2026
    01/04/2022 - 31/08/2022  16/06/2025  01/09/2025  31/08/2026

    Nid oes dyddiad cau ar gyfer ceisiadau,ond ni ellir ôl-ddyddio’r arian.

  • Sut i wneud cais 

    1. Gwirio eich cymhwysedd

    Gwirio eich cymhwysedd ar-lein. Noder, canllaw yn unig yw'r gwiriwr cymhwysedd.

    2. Gwneud cais ar-lein

    Gwneud cais ar-lein. Gwnewch yn siwr eich bod a'r canlynol wrth la

    • Tystysgrif geni eich plentyn

    • Prawf cyfeiriad

    • Tystiolaeth o incwm y cartref neu ymrestriad ar gwrs addysg uwch neu addysg bellach

    3. Dewis lleoliad gofal plant a chytuno ar yr oriau

    Ar ol cael eich cymeradwyo, dewiswch eich lleoliad dewisol ar-lein a chadarnhewch yr oriau gofal plant i'w darparu. Gwnewch yn siwr eich bod wedi trafod argaeledd gyda'r lleoliad gofal plant cyn cadarnhau hyn ar-lein. 

     

    Dilynwch y ddolen isod i wneud cais a sylwer bod sawl offeryn cymorth gan Lywodraeth Cymru a allai eich helpu i gwblhau eich cais, pe bai ei angen arnoch:

    Gwiriwch a ydych chi'n gymwys

    Gwneud cais am y Cynnig Gofal Plant

    Cymorth i rieni gyda Cynnig Gofal Plant Cymru

     

    Ydych chi’n chwilio am Ofal Plant lleol? 

    Os ydych yn chwilio am ofal plant, ewch i wefan Gwybodaeth Gofal Plant Cymru neu cysylltwch â'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd i drafod eich gofynion:

    Gwybodaeth Gofal Plant Cyrmu

    Os oes angen cymorth pellach arnoch gyda'ch cais Cynnig Gofal Plant a/neu i ddod o hyd i ofal plant, cysylltwch â chynrychiolwyr Cynnig Gofal Plant y Fro ar:

    • 01446 704704
    • childcareoffer@valeofglamorgan.gov.uk
  • Gwybodaeth i Ddarparwyr Gofal Plant

    Os nad ydych eisoes wedi cofrestru i ddarparu'r Cynnig Gofal Plant drwy'r Gwasanaeth Digidol Cenedlaethol, gwnewch hynny trwy ddilyn y ddolen isod.

    Cofrestrwch 

     

    Bydd y ddolen hon yn mynd â chi i dudalen mewngofnodi Porth y Llywodraeth lle gallwch ddechrau’r broses gofrestru.  Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar greu eich cyfrif Porth y Llywodraeth, yn ogystal â beth i’w wneud nesaf os oes gennych un yn barod, yma:


    I gael mwy o wybodaeth am sut i gofrestru i ddarparu'r Cynnig Gofal Plant drwy'r Gwasanaeth Digidol Cenedlaethol, dilynwch y dolenni isod:

  • Cwestiynau Cyffredin

    A fydd yn rhaid i mi dalu unrhyw beth?

    Mae'r Cynnig Gofal Plant yn ariannu uchafswm o 30 awr o addysg gynnar a gofal plant bob wythnos. Mae'r arian gan y llywodraeth ar gyfer yr addysg a'r gofal y mae'r gweithwyr proffesiynol yn y lleoliad yn eu darparu. Nid yw’n cynnwys bwyd, trafnidiaeth na gweithgareddau oddi ar y safle y codir cost ychwanegol ar eu cyfer a bydd y darparwyr yn gallu codi ffi arnoch am y rhain.

     

    Nodyn Atgoffa: Mae’r Cynnig Gofal Plant yn ariannu uchafswm o 48 allan o 52 wythnos y flwyddyn ac felly bydd rhieni’n atebol am unrhyw ofal plant a ddefnyddir yn ystod yr wythnosau nas telir amdanynt. Wythnosau gwyliau ysgol fydd y rhain bob amser.

     

    Cynnig Gofal Plant - Cwestiynau Cyffredin am Daliadau Ychwanegol

    A allaf ddefnyddio mwy nag un darparwr gofal plant?

    Gallwch, hyd at DDAU leoliad gofal plant cofrestredig y diwrnod ar ben eich lleoliad Addysg Feithrin ar unrhyw ddiwrnod.

     

    Yn ystod y cyfnod gwyliau gall plentyn felly ddefnyddio uchafswm o ddau leoliad cofrestredig dan y cynnig.

     

    Faint o arian gofal plant allaf ei ddefnyddio yn ystod gwyliau ysgol?

    Dyrennir 3 wythnos o ddarpariaeth gwyliau y tymor i blant. 

    • Rhiant sy’n gymwys am 1 tymor - 3 wythnos o ddarpariaeth gwyliau;
    • Rhiant sy’n gymwys am 2 dymor - 6 wythnos o ddarpariaeth gwyliau;
    • Rhiant sy’n gymwys am 3 thymor - 9 wythnos o ddarpariaeth gwyliau;
    • Rhiant sy’n gymwys am 4 tymor - 12 wythnos o ddarpariaeth gwyliau;
    • Rhiant sy’n gymwys am 5 tymor - 15 wythnos o ddarpariaeth gwyliau.

     

    Gall wythnosau nas defnyddir o bob tymor gael eu cario i’r tymor nesaf gan gynnwys i’r flwyddyn academaidd newydd hefyd.  

     

    Ni ellir defnyddio’r wythnosau gwyliau cyn eu bod wedi’u cronni.


    A allaf gronni oriau?

    Na. Caiff rhieni gyfanswm o 30 awr yr wythnos o ddarpariaeth Addysg Feithrin a gofal plant ar y cyd gyda rhieni’n dewis faint o’r 30 awr i’w ddefnyddio.

     

    Gellir cario unrhyw wythnosau gwyliau drosodd a’u defnyddio yn y tymor nesaf, ar yr amod eu bod yn parhau’n gymwys i dderbyn y Cynnig.

     

    Beth os yw fy amgylchiadau cyflogaeth yn newid?

    O dro i dro gall teuluoedd ddod yn anghymwys ar gyfer y cynnig er enghraifft os yw un rhiant neu’r ddau riant yn colli swydd ac yn disgyn yn is na’r lleiafswm oriau angenrheidiol. Er mwyn cynnig sefydlogrwydd i’r plant a’r darparwyr gofal plant, ac i roi’r cyfle i rieni ddod yn gymwys eto, bydd y rhieni hynny sy’n dod yn anghymwys yn dal i allu manteisio ar y Cynnig am gyfnod cyfyngedig o amser (cyfnod eithrio dros dro o 8 wythnos).

     

    Cyfrifoldeb y rhiant yw hysbysu’r Awdurdod Lleol a’r darparwr os yw ei amgylchiadau’n newid.

     

    Oes rhaid i mi gael mynediad at Addysg Feithrin i gael y cyllid gofal plant?

    Nac oes. Gallwch barhau i gael 17.5 awr yr wythnos o gyllid gofal plant yn ystod y tymor os byddwch chi'n dewis peidio â manteisio ar y 12.5 awr yr wythnos o addysg feithrin. Fodd bynnag, nid yw oriau gofal plant sy'n cael eu hariannu drwy'r Cynnig Gofal Plant yn cynyddu os nad ydych yn dechrau'ch lle addysg feithrin. 

  • Cynnig Gofal Plant 2 Oed 

    Ym mis Ebrill 2023, dechreuodd Dechrau'n Deg ym Mro Morgannwg gyflwyno ei gynnig gofal plant 2 oed yn unol â’r broses o ehangu’r Ddarpariaeth ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar gan Lywodraeth Cymru.  Ar hyn o bryd mae'n cael ei gynnig i godau post dethol, ond bydd yn cael ei gyflwyno'n raddol ar draws pob ardal ym Mro Morgannwg.   Nid yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi gwybod i ni eto pryd fydd y cynnig yn cael ei gyflwyno'n llawn.

    Mae'r cynnig gofal plant 2 oed yn darparu 12.5 awr o ofal plant yr wythnos yn ystod y tymor.  Bydd plant yn gymwys am y cynnig o’r tymor ar ôl eu hail ben-blwydd tan y tymor ar ôl eu trydydd pen-blwydd. Gellir cynnig gofal plant mewn Lleoliadau Dechrau'n Deg, a gyda lleoliadau gofal plant preifat sydd wedi'u cofrestru i ddarparu'r cynnig gofal plant 2 oed. 

    I ddarganfod a ydych yn gymwys i gael y cynnig gofal plant 2 oed, gallwch ddefnyddio'r gwiriwr cod post yma.  Os ydych yn gymwys, bydd y system yn eich cyfeirio at y Porth Dinasyddion i gyflwyno cais.  Yn dilyn eich cais, bydd ein Swyddog Cyswllt Gofal Plant yn adolygu eich cais ac yn cysylltu â chi'n uniongyrchol i drafod eich gofynion. 

    Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am y broses o ehangu’r ddarpariaeth ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar gan y Llywodraeth yn raddol:

    Gofal Plant Dechrau'n Deg  

     

    Gwybodaeth Ychwanegol:

    Gall bob lleoliad gofal plant sydd wedi cofrestru ar gyfer y cynnig gofal plant 2 oed fanteisio ar gymorth ychwanegol gan y Tîm Cynhwysiant Dechrau'n Deg, ymweliadau rheolaidd o ansawdd a hyfforddiant ychwanegol. 

    Os oes gan unrhyw leoliadau gofal plant ddiddordeb mewn darparu'r cynnig gofal plant 2 oed, dylent gysylltu â'r tîm ar:

    • 01446 725 106
    • 2yearoldchildcare@valeofglamorgan.gov.uk

     

    Gall y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd roi gwybodaeth am ffynonellau eraill o gymorth gyda chostau gofal plant.  Er enghraifft, y Cynllun Gofal Plant Di-dreth:

    Cymorth gyda Chostau Gofal Plan   

     

  • Rhagor o wybodaeth a Manylion Cyswllt  

    Cynnig Gofal Plant i Gymru Llywodraeth Cymru

    Canllaw Cynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru i Awdurdodau Lleol (Tachwedd 2023)

    Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd y Fro (GGiD)

    Swyddfa’r Dociau

    Heol yr Isffordd

    Y Barri

    Bro Morgannwg

    CF63 4RT

    • 03000 628628
    • fis@valeofglamorgan.gov.uk
    • @VALEFIS
    • @VOGFIS