Dewis Gofal Plant Cyfrwng Cymraeg
Waeth beth yw eich iaith yn y cartref, gall gofal plant ac addysg cyfrwng Cymraeg roi cyfleoedd, profiadau a sgiliau ychwanegol i’ch plentyn.
Cylchoedd Meithrin
Mae Cylchoedd Meithrin yn darparu gofal plant cyfrwng Cymraeg i blant rhwng 2 oed ac oedran ysgol fel arfer. Mae Cylchoedd Meithrin yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau gofal plant o ofal dydd llawn, gofal sesiynol (ar gyfer sesiynau 2 - 4 awr y dydd) neu ofal cofleidiol gyda'r ysgol leol.
Nid yw'r rhan fwyaf o rieni sy'n anfon eu plentyn i Gylch Meithrin yn siarad Cymraeg eu hunain a gallant fanteisio ar ddysgu Cymraeg gyda'u plant os ydynt yn dewis gwneud hynny. Dewch o hyd i Gylchoedd Meithrin ym Mro Morgannwg drwy fynd i wefan Mudiad Meithrin:
Mudiad Meithrin
Cylch Ti a Fi (Grwpiau Rhieni a Phlant Bach Cymraeg)
Mae'r Cylch Ti a Fi yn croesawu babanod, plant bach, a'u rhieni / gofalwyr i aros a chwarae a chymdeithasu. Mae'r Cylch Ti a Fi yn cynnwys gweithgareddau chwarae sydd yn hwyl ac yn gyfle gwych i deuluoedd sydd ddim yn siarad Cymraeg i ddefnyddio'r Gymraeg am y tro cyntaf gyda'u plant. Dewch o hyd i Gylchoedd Ti a Fi yn y Fro trwy fynd i wefan Mudiad Meithrin:
Mudiad Meithrin
Mae gennym hefyd amrywiaeth o ofal plant cyfrwng Cymraeg ar gael drwy warchodwyr plant, meithrinfeydd dydd a chlybiau y tu allan i'r ysgol. Dewch o hyd i ofal plant cyfrwng Cymraeg yn y Fro drwy ymweld â gwefan Gwybodaeth Gofal Plant Cymru:
Gwybodaeth Gofal Plant Cymru (Gofal Plant Cyfrwng Cymraeg)
Am fwy o wybodaeth, ewch i:
Eich Taith Ddwyieithog