Iechyd Corfforol
Nod Tîm Byw’n Iach y Fro yw cynyddu nifer y bobl sy’n gwneud chwaraeon a chyfleoedd chwarae ar draws y Fro i wella iechyd a lles.
Chwaraeon a Chwarae
Pan mae plant ar bwysau iachus, maen nhw’n teimlo’n well amdanynt eu hunain. Mae’n haws iddynt ddysgu a chwarae. Ac maen nhw’n fwy tebygol o dyfu i fyny’n iach hefyd. Dyma pam fod sicrhau eu bod yn bwysau iach o’r cychwyn cyntaf yn un o’r pethau gorau y gallwch ei wneud drostynt.
Mae gan bob plentyn yng Nghymru’r hawl i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd i'w rhoi ar ben ffordd, gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru’n lansio Pob Plentyn Cymru.
Mae’r wefan yn llawn syniadau i’ch helpu i roi dyfodol iach a hapus i’ch plant.
Pob Plentyn Cymru
Mae Iechyd Gwell – Teuluoedd Iachach (Newid am Oes gynt) yn rhoi syniadau hwyl i helpu’ch plant a’ch teulu i fod yn iach, gyda’r wefan yn cynnwys gwybodaeth am fwyd, ryseitiau a gweithgareddau.
Iechyd Gwell – Teuluoedd Iachach (Saesneg Unig)
Ryseitiau bocs bwyd iachach
Sicrhewch lwytho syniadau hawdd eu paratoi yn ogystal ag aw grymiadau o beth arall i'w roi yn eu bocsys bwyd o Change 4 Life.
Iechyd Gwell – Teuluoedd Iachach (Saesnig Unig)
Prawf Iechyd a Lles am Ddim
Mae’r prawf iechyd a lles ‘Ychwanegu at fywyd’ yn wasanaeth am ddim yng Nghymru sy’n profi’ch iechyd corfforol, gan gynnwys eich ymborth bwyd ac alcohol, ymarfer corff a Mynegai Màs y Corff, a’ch iechyd a’ch lles meddwl. Mae hefyd yn cynnwys syniadau a gwybodaeth gan arbenigwyr iechyd i’ch helpu i deimlo’n well. Gallwch wneud yr asesiad ar-lein ac nid yw ond yn cymryd ambell funud:
Prawf iechyd a lles ‘Ychwanegu at fywyd’
Partneriaeth Fwyd y Fro
Ysbrydoli cymunedau iachach ym Mro Morgannwg drwy gysylltu â bwyd yn ystod y pandemig Covid-19 a thu hwnt.Gweler y cyngor ar eu gwefan ar fwyta’n iach, gwybodaeth a chefnogaeth ar gyfer busnesau bwyd lleol a llawer o ryseitiau blasus a maethlon i roi cynnig arnynt gartref.
Partneriaeth Fwyd y Fro
Fideos BIP Caerdydd a'r Fro ar Gyflwyno Bwydydd Solet
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi rhyddhau cyfres o fideos ar 'Gyflwyno Bwydydd Solet i'ch Babi'. Mae'r 5ed fideo yn ymwneud â babanod yn symud ymlaen i brydau teuluol. Mae'n esbonio ffyrdd o helpu gyda’r newid megis cyflwyno gweadau gwahanol, a ffyrdd o addasu prydau'r teulu. Mae hefyd yn disgrifio'r gwahanol arwyddion i nodi a yw eich babi'n llwglyd neu'n llawn. Mae'n llawn gwybodaeth a byddai'n ddefnyddiol i unrhyw rieni sydd â babanod sy'n symud ymlaen i fwydydd solet.
Fideos BIP Caerdydd a'r Fro ar Gyflwyno Bwydydd Solet
Talebion Dechrau Iach GIG
Os ydych yn feichiog* neu â phlant o dan 4 oed* gallwch gael talebau neu daliadau wythnosol AM DDIM i'w gwario ar:
• laeth buwch
• ffrwythau a llysiau ffres, wedi’u rhewi neu mewn tun
• llaeth fformiwla babanod
• pyls ffres, sych a tun
• Gallwch hefyd gael fitaminau Dechrau Iach am ddim.
Ers mis Mai 2021 yn genedlaethol dim ond 64% o'r rhai a oedd yn gymwys a ddefnyddiodd dalebau Dechrau Iach ledled Cymru; roedd y nifer a oedd yn manteisio arno ar ei isaf ym Mro Morgannwg ar 57% ond mae'n cynyddu'n raddol. Gallai teuluoedd cymwys fod yn colli allan ar dros £1,000. O fis Ebrill 2021 mae gwerth y daleb wedi cynyddu i £4.25 yr wythnos ac mae cynllun cerdyn wedi’i ragdalu yn cael ei gyflwyno. Cysylltwch â ni os hoffech gael rhagor o wybodaeth am wneud cais.
*Menywod sydd o leiaf 10 wythnos yn feichiog hyd at ben-blwydd eu plentyn yn 4 oed ac sy’n derbyn budd-daliadau penodol. Mae menywod beichiog dan 18 oed hefyd yn gymwys.
Talebion Dechrau Iach GIG
Maeth i'ch un bach (NYLO)
Mae NYLO yn rhaglen 6 wythnos rad ac am ddim sy’n gallu eich helpu chi i deimlo’n fwy hyderus i wneud y canlynol:
Cynnig deiet cytbwys i’ch plentyn.
Ymdopi â phlant sy’n ffyslyd gyda’u bwyd ac annog bwydydd newydd.
Mae NYLO yn agored i bob teulu sydd â phlant sy’n 5 oed neu’n iau, sy’n byw yng Nghaerdydd a’r Fro.
Maeth i'ch un bach (NYLO)
Urddas Mislif
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi bod yn cefnogi teuluoedd i sicrhau urddas mislif i fenywod a merched o gartrefi incwm isel yn ystod y pandemig.
Mae cymorth parhaus wedi'i roi ac mae cynhyrchion wedi bod ar gael drwy ddosbarthu parseli bwyd ysgolion, y tîm 15plus, y gwasanaeth lles ieuenctid a phartneriaid cymdeithasau tai amrywiol.
Mae partneriaethau gyda mudiadau’r trydydd sector, gan gynnwys banciau bwyd, canolfannau cymunedol, canolfannau teulu ac ati, wedi cael eu rhoi ar waith i sicrhau mynediad i gynhyrchion mislif, yn rhad ac am ddim ac yn hygyrch yn y ffordd fwyaf ymarferol ac urddasol bosibl.
Urddas Mislif