Cynnig Gofal Plant 2 Oed
Ym mis Ebrill 2023, dechreuodd Dechrau'n Deg ym Mro Morgannwg gyflwyno ei gynnig gofal plant 2 oed yn unol â’r broses o ehangu’r Ddarpariaeth ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar gan Lywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd mae'n cael ei gynnig i godau post dethol, ond bydd yn cael ei gyflwyno'n raddol ar draws pob ardal ym Mro Morgannwg. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi gwybod i ni eto pryd fydd y cynnig yn cael ei gyflwyno'n llawn.
Mae'r cynnig gofal plant 2 oed yn darparu 12.5 awr o ofal plant yr wythnos yn ystod y tymor. Bydd plant yn gymwys am y cynnig o’r tymor ar ôl eu hail ben-blwydd tan y tymor ar ôl eu trydydd pen-blwydd. Gellir cynnig gofal plant mewn Lleoliadau Dechrau'n Deg, a gyda lleoliadau gofal plant preifat sydd wedi'u cofrestru i ddarparu'r cynnig gofal plant 2 oed.
I ddarganfod a ydych yn gymwys i gael y cynnig gofal plant 2 oed, gallwch ddefnyddio'r gwiriwr cod post uchod. Os ydych yn gymwys, bydd y system yn eich cyfeirio at y Porth Dinasyddion i gyflwyno cais. Yn dilyn eich cais, bydd ein Swyddog Cyswllt Gofal Plant yn adolygu eich cais ac yn cysylltu â chi'n uniongyrchol i drafod eich gofynion.
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am y broses o ehangu’r ddarpariaeth ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar gan y Llywodraeth yn raddol - Gofal Plant Dechrau'n Deg
Gwybodaeth Ychwanegol
Gall bob lleoliad gofal plant sydd wedi cofrestru ar gyfer y cynnig gofal plant 2 oed fanteisio ar gymorth ychwanegol gan y Tîm Cynhwysiant Dechrau'n Deg, ymweliadau rheolaidd o ansawdd a hyfforddiant ychwanegol.
Os oes gan unrhyw leoliadau gofal plant ddiddordeb mewn darparu'r cynnig gofal plant 2 oed, dylent gysylltu â'r tîm ar 01446 725106 neu e-bostio 2yearoldchildcare@valeofglamorgan.gov.uk
Gall y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd roi gwybodaeth am ffynonellau eraill o gymorth gyda chostau gofal plant. Er enghraifft, y Cynllun Gofal Plant Di-dreth a'r Cynnig Gofal Plant ar gyfer plant 3 i 4 oed
Cymorth gyda Chostau Gofal Plant.