Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Weithiau mae angen ychydig o help ychwanegol ar blant, pobl ifanc a'u teuluoedd.
Mae Llinell Gyngor Teuluoedd yn Gyntaf yn pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer rhieni, gofalwyr a phobl broffesiynol sydd gan, neu sy'n gweithio gyda phlant 0-18 oed sy'n byw ym Mro Morgannwg.
Mae Cynghorwyr Teuluoedd yn Gyntaf yn cynnig gwasanaeth personol gyda'r nod o wrando ar gryfderau ac anghenion pob teulu a'u hasesu. Rydym yn cynnig gwybodaeth a chyngor i gynorthwyo teuluoedd i ddatrys eu hanawsterau'n annibynnol a'u cynorthwyo i gael mynediad at wasanaethau eraill i'w cefnogi ymhellach os oes angen.
Nod Llinell Gyngor Teuluoedd yn Gyntaf yw:
Gwrando arnoch a chynnig dewisiadau ar sut i ddiwallu anghenion eich teulu
Eich cefnogi i gael gafael ar y cymorth cywir ar yr adeg gywir
Os na allwn ateb eich cwestiynau neu ddatrys eich pryderon, byddwn yn gwneud pob ymdrech i ddod o hyd i wasanaeth sy'n gallu gwneud hynny.
Ddydd Llun i ddydd Gwener: 9.00yb – 4.30yh
familiesfirstadviceline@valeofglamorgan.gov.uk