Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Mae Gwasanaeth Ieuenctid y Fro wedi ffurfio partneriaeth â Gwasanaeth Perthnasoedd Iach yr YMCA, sy’n Wasanaeth Iechyd Rhywiol a Pherthnasoedd arbenigol a chyfrinachol, i ddarparu cymorth targedig i grwpiau bach o bobl ifanc 11-18 oed ym Mro Morgannwg mewn amrywiaeth o leoliadau ieuenctid.
Maent yn ymdrin â’r meysydd canlynol:
Ymwybyddiaeth o Ddulliau Atal Cenhedlu
Ymwybyddiaeth o Heintiau a Drosglwyddir yn Rhywiol
Rhyw a'r Gyfraith
Nodi Perthnasoedd Cadarnhaol
Cydsynio
Cymryd Risg Rhywiol (gan gynnwys Diogelwch Ar-lein
Maent hefyd yn cydlynu ac yn datblygu'r Cynllun Cerdyn C ar ran y Gwasanaeth Ieuenctid ym Mro Morgannwg. Mae'r cynllun Cerdyn C yn gynllun cyfrinachol sy'n cynnig gwybodaeth a chymorth am ddim am gondomau ac iechyd rhywiol i bob person ifanc 13-25 oed. Mae map o ble mae'r siopau Cerdyn C yng Nghaerdydd a'r Fro i'w gweld yma.
Os hoffech ddod yn asesydd Cerdyn C, bod yn rhan o'r cynllun neu gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â shot@ymcacardiff.wales.