Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Mae penderfyniadau ar faterion allweddoll eraill, megis gosod y Gyllideb, yn aros yn nwylo’r Cyngor. Mae cyfarfodydd y Cabinet yn cael eu cynnal bob pythefnos, ac yn cael eu cadeirio gan yr Arweinydd. Yn ystod y cyfarfodydd yma, caiff materion eu codi a’u trafod, ac yna caiff penderfyniadau eu gwneud.
Cyn y cyfarfod, anfonir agenda ar gyfer cyfarfod y Cabinet i bob Aelod o’r Cyngor.
Mae’r Cabinet yn gweithredu Cynllun Gwaith Ymlaen Llaw sy’n datgelu’r Adroddiadau y bydd aelodau’n disgwyl eu gweld yn codi mewn gwahanol Gyfarfodydd Cabinet dros y flwyddyn.
Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cyfarfod y Cabinet, anfonir cofnodion y cyfarfod sy'n manylu ar y penderfyniadau a wnaed at holl Aelodau'r Cyngor. Yna mae gan unrhyw Gynghorydd gyfle i "alw i mewn" eitem i'w chraffu ymhellach. Mae pum Pwyllgor Craffu yn gweithredu i ddelio â'r ceisiadau hyn.
Arweinydd Gweithredol ac Aelod Cabinet dros Berfformiad ac Adnoddau
Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Lefydd Cynaliadwy
Aelod Cabinet dros Ymgysylltu â’r Gymuned, Cydraddoldeb a Gwasanaethau Rheoleiddiol
Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a’r Gymraeg
Aelod Cabinet dros Hamdden, Chwaraeon a Lles
Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladu
Aelod Cabinet dros Dai Sector Cyhoeddus a Chynnwys Tenantiaid
Aelod Cabinet dros Gofal Cymdeithasol ac Iechyd