Siarter rhwng Cyngor Bro Morgannwg a’r cynghorau tref a chymuned
Yn 2008 sefydlwyd siarter rhwng Cyngor Bro Morgannwg a 21 o’r 26 chyngor tref a chymuned. Mae’r siarter yn sefydlu’r amcanion ar gyfer cydweithredu, i adeiladau ar drefniadau da presennol, i werthfawrogi pwysigrwydd didwylledd, gonestrwydd a pharch at farn eraill ac i flaenoriaethu gofynion pobl y Fro uwchlaw popeth arall.
Sefydlwyd grŵp gweithredol o glercod y cynghorau a swyddogion y cyngor sir er mwyn llunio cynllun gweithredol. Bwriad y cynllun yw rhoi cnawd ar esgyrn yr amcanion uwchlaw. Cafodd ei gymeradwyo gan Gabinet Cyngor Bro Morgannwg ym mis Mawrth 2009.
Pwyllgor Cydweithio Cymunedau Cyngor Bro Morgannwg - sef cynrychiolwyr cynghorau ac aelodau’r cyngor sir - sydd â’r gwaith o weithredu ac arolygu’r gwaith sy’n deillio o’r cynllun.
Y bwriad yw arolygu’r siarter yn llawn bob pedair blynedd, ar ôl yr etholiadau lleol, neu’n amlach os oes yna gytundeb ynglŷn â’r angen.