Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu'r gwasanaethau cywir i'r bobl iawn ar yr adeg iawn. Bydd eich adborth yn ein helpu i ddeall lle rydym yn gwneud gwaith da a lle rydych chi'n meddwl y gallwn ni wneud yn well. Drwy rannu eich adborth, byddwch yn helpu i wella ein gwasanaethau i bawb.
To make sure we can give you the quickest and best response, please make sure that you use the right option from the list below when you contact us:
Os hoffech chi wneud awgrym ynglŷn â sut y gallwn wella ein gwasanaethau, gallwch gysylltu â ni:
Ffurflen adborth ar-lein
Os hoffech anfon canmoliaeth i ni am un o weithwyr y cyngor, tîm neu wasanaeth, gallwch gysylltu â ni:
Ffurflen ganmol ar-lein
Gall unrhyw un sydd wedi defnyddio, neu sydd angen defnyddio, gwasanaeth cyngor wneud cwyn. Gallwch hefyd gwyno ar ran rhywun arall nad yw'n gallu cwyno eu hun (cyn belled â bod gennych eu caniatâd ysgrifenedig). Dylech gysylltu â ni cyn gynted â phosibl ond mae gennych hyd at 12 mis ar ôl i chi ddod yn ymwybodol o unrhyw broblem i wneud cwyn. Mewn amgylchiadau eithriadol, gellir ymestyn yr amserlen hon.
Cyn i chi wneud cwyn darllenwch y canlynol:
Gall cwyn gynnwys:
Methiant y cyngor i ddarparu gwasanaeth
Oedi cyn ymateb (neu ddim ymateb) i'ch cais yn yr amserlen benodedig
Methu â dilyn eu rheolau cytunedig, cyfrifoldebau statudol neu safonau gwasanaeth cyhoeddedig
Agwedd anghymwynasgar gan rywun sy'n gweithio i'r cyngor
Os ydych chi'n teimlo eich bod wedi dioddef unrhyw ragfarn neu wahaniaethu
Beth sydd ddim yn gŵyn?
Nid yw cwyn:
Yn gais cychwynnol am wasanaeth, casgliad un tro a gollwyd neu hawliad yswiriant. Rhoi gwybod am broblem i Gyngor Bro Morgannwg
Yn apêl yn erbyn penderfyniad a ‘wnaed yn briodol’ gan gorff cyhoeddus
Modd o geisio newid deddfwriaeth neu benderfyniad ar bolisi ‘a wnaed yn briodol’
Modd i lobïo grwpiau neu sefydliadau i geisio hyrwyddo achos
Os hoffech wneud cwyn am un o weithwyr y cyngor, tîm neu wasanaeth, gallwch wneud cwyn ar-lein:
Mae cwynion am Gwasanaethau Cymdeithasol, Ysgolion, Cynghorwyr a’r Gymraeg yn cael eu trin ar wahân.
01446 700111
Os ydych chi'n cael trafferth cyfathrebu dros y ffôn, gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth negesu cenedlaethol i'ch helpu gyda'ch canmoliaeth.
Cysylltu â ni yn ysgrifenedig
Cysylltiadau Cwsmeriaid
Swyddfeydd DinesigHeol HoltonY BarriCF63 4RU
Ceir trefn gwyno ar wahân ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol.
Mae gan ysgolion eu trefnau cwyno eu hunain a dylech gysylltu â'r Pennaeth perthnasol yn uniongyrchol yn y lle cyntaf.
Nid yw’n bosibl ymdrin â chwynion am ymddygiad Cynghorwyr drwy’r system gwynion.
I gael gwybodaeth cysylltwch ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru neu gallwch anfon ebost at Swyddog Monitro'r Cyngor.
Ceir trefn gwyno ar wahân ar gyfer cwynion ynglŷn â'r iaith Gymraeg.Nodwch eich manylion cyswllt llawn yn eich gohebiaeth (cyfeiriad a rhif ffôn) a’r dull cyfathrebu o ddewis. Bydd hyn yn ein galluogi i gofnodi’ch cwyn yn ôl y polisi corfforaethol.
Mae'r Polisi hwn yn nodi dull y Cyngor o ymdrin â'r ychydig iawn o unigolion y mae eu gweithredoedd neu eu hymddygiad yn erbyn staff a Chynghorwyr yn cael eu hystyried yn annerbyniol. Mae'r term 'dinesydd' yn cynnwys unrhyw berson sy'n cysylltu â'r Cyngor neu sy'n gweithredu ar ran unigolyn arall wrth wneud hynny, unrhyw achwynydd, ac unrhyw berson sy'n gofyn am wybodaeth gan y Cyngor. Mae’r cyfeiriadau at 'staff' neu 'swyddogion' hefyd yn berthnasol i Gynghorwyr.
Polisi ar Weithredoedd Annerbyniol gan Ddinasyddion