Cost of Living Support Icon

SPF Logo Banner Welsh 06.09.23

 

 

Vale Business Development Grant Fund

 

Cronfa Grant Datblygu Busnes y Fro

Mae Cronfa Datblygu Busnes y Fro yn cynnig darparu cymorth ariannol i fusnesau sefydledig ym Mro Morgannwg, ar draws pob sector diwydiant. 

Nod y gronfa yw meithrin twf a datblygiad a galluogi busnesau i arloesi, datgarboneiddio a thyfu. 

 

Mae Cronfa Grant Datblygu Busnes y Fro nawr ar gau i geisiadau.

 

Bydd y Gronfa Grant yn ysgogi twf economaidd fel ehangu busnes, arallgyfeirio, arloesi a chreu swyddi sydd i gyd yn cyfrannu at dwf a datblygiad economaidd cyffredinol yn y Fro. 

 

Bydd grantiau o bob maint yn cael eu cynnig am 50% o arian grant, 50% o arian cyfatebol ar gyfer prosiectau.

 

  • Grantiau Bach
    Prosiectau sy'n ceisio cyllid o £5,000 - £15,000 
  • Grantiau Canolig 
    Prosiectau sy'n ceisio cyllid o £15,001 - £50,000 
  • Grantiau Mawr 
    Prosiectau sy'n ceisio cyllid o £50,001 - £300,000 

Bydd y grantiau hyn ar gael i fusnesau sefydledig sydd wedi bod yn masnachu am 12 mis neu fwy.

 

Y prif themâu cymhwysedd ar gyfer y gronfa fydd:

  • Prosiectau sy'n galluogi busnesau i dyfu a dablygu

  • Prosiectau sy'n galluogi busnesau i arloesi ac arallgyfeirio 

  • Prosiectau sy'n galluogi busnesau i ddatgarboneiddio 

 

 

  

Cwestiynau Cyffredin

 

  • Sut ydw i'n profi fy mod wedi bod yn masnachu am 12 mis neu fwy?
    Byddai angen prawf arnom i ddangos eich bod wedi bod yn masnachu o fis Medi 2022.  Gallai hyn gynnwys tystysgrif ymgorffori o dŷ’r cwmnïau, ffurflen dreth neu gyfriflen banc yn dangos trafodion busnes o fis Medi 2022 ymlaen.
  • Beth a ystyrir yn arian cyfatebol? Sut ydw i'n rhoi tystiolaeth o hyn?
    Mae'n rhaid i arian cyfatebol fod yn gyllid sydd eisoes wedi'i sicrhau ac ni all fod yn dybiannol.   Gallai hyn gynnwys arian parod o gronfeydd wrth gefn busnes, benthyciad banc, cynllun cyllid grant arall. Gallai tystiolaeth fod ar ffurf llythyr dyfarnu gan gynllun cyllid grant neu fanc neu gyfriflen banc gyda chronfeydd priodol wedi’u clirio. 
  • Faint o arian cyfetabol sydd ei angen arnaf? 

    Mae angen i chi gael cyfanswm o 50% o gostau'ch prosiect fel arian cyfatebol e.e. Cyfanswm Cost y Prosiect £200,000

    Arian cyfatebol £100,000 

    Cais grant £100,000 

  • Os angen cyfrif banc busnes arnaf?    

     

    Os byddwch yn llwyddiannus wrth gael grant, mae angen i'r cyfrif banc y telir y grant iddo gyd-fynd â manylion y busnes ymgeisiol.   
  • Ai un cais fesul busnes a ganiateir? A allaf wneud cais am brosiectau lluosog/mae gen i sawl eiddo a hoffwn ymgeisio am y ddau? A ddylai pob prosiect fod mewn ceisiadau ar wahân?  
    Dim ond un cais fyddwn yn ei dderbyn fesul busnes.  Gellir cynnwys sawl elfen o brosiect ar un cais os ydynt yn gyflenwol, ond dim ond un cais i bob busnes y byddwn yn ei ystyried ar gyfer y grant hwn.
  • Sut byddaf yn dangos bod y prosiect wedi cyflawni'r canlyniadau a nodwyd gennyf?  Pa dystiolaeth fyddwch chi'n gofyn amdani?  
    Os byddwch yn llwyddiannus wrth gael grant, bydd swyddogion yn anfon rhestr o dystiolaeth bosibl atoch y gallech ei defnyddio i fodloni'ch allbynnau a'ch canlyniadau. 
  • Rwy'n fusnes bach.   Ni allaf fforddio talu am yr eitem yn llwyr.   A oes unrhyw ffordd o gwmpas hyn?  
    Er ein bod fel arfer yn talu ein grantiau'n ôl-weithredol, gallwn ystyried gwahanol ganrannau taliadau o'r grant fesul achos. 
  • Pryd mae'r grant yn cau ar gyfer ceisiadau?  
    Nid oes gan y cynllun grant ddyddiad cau ar hyn o bryd, ond rydym yn rhoi'r grant ar sail y cyntaf i'r felin.  Unwaith y bydd yr arian grant wedi'i glustnodi'n llawn i brosiectau, byddwn yn cau ar gyfer ceisiadau. 
  • Rwyf wedi cyflwyno cais, pryd alla i ddechrau fy mhrosiect?  
    Ni allwch ddechrau ar eich prosiect nes ei fod wedi'i gymeradwyo a’ch bod wedi derbyn llythyr cyllido gennym ni.

  

Os ydych chi'n fusnes newydd sy'n chwilio am gyllid, gweler Bwrsariaeth Dechrau Busnes y Fro: 

 

 

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â’r tîm Datblygu Economaidd:

 

 

  

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd wrth ddefnyddio gwasanaethau’r Cyngor.

 

Hysbysiad Preifatrwydd y Wefan