Amodau
Amodau Gorfodol
Nid yw tystysgrif safle clwb yn awdurdodi gwerthu alcohol i’w yfed oddi ar y safle, oni bai ei fod hefyd yn awdurdodi gwerthu alcohol i aelod o’r clwb i’w yfed ar y safle hwnnw. Rhaid i dystysgrif safle clwb sy’n awdurdodi gwerthu alcohol i’w yfed oddi ar y safle gynnwys yr amodau canlynol:
- Yr amod cyntaf yw: rhaid i’r cyflenwad gael ei wneud ar adeg pan mae’r safle ar agor ar gyfer gwerthu alcohol, yn unol â thystysgrif safle’r clwb, i aelodau’r clwb i’w yfed ar y safle.
- Yr ail amod yw bod unrhyw alcohol sy’n cael ei werthu i’w yfed oddi ar y safle, mewn cynhwysydd wedi’i selio.
- Y drydedd amod yw bod unrhyw gyflenwad o alcohol i’w yfed oddi ar y safle, yn cael ei werthu i aelod o’r clwb ei hun.