1. Bydd person perthnasol yn sicrhau nad oes unrhyw alcohol yn cael ei werthu neu ei gyflenwi i'w yfed ar neu oddi ar yr eiddo am bris sy'n llai na'r pris a ganiateir.
2. At ddibenion yr amod a osodir ym mharagraff 1—
(a) mae ystyr "trethi" i'w ddehongli yn unol â Deddf Trethi ar Ddiodydd Alcoholaidd 1979;
(b) ystyr "pris a ganiateir" yw'r pris a geir drwy gymhwyso'r fformiwla-—
Pan fo—
(i) P yw'r pris a ganiateir,
(ii) D yw cyfradd y dreth sy’n daladwy mewn perthynas â’r alcohol fel pe bai’r dreth yn cael ei chodi ar ddyddiad gwerthu neu gyflenwi’r alcohol, a
(iii) V yw cyfradd y dreth ar werth sy’n daladwy mewn perthynas â’r alcohol fel pe bai’r dreth ar werth yn cael ei chodi ar ddyddiad gwerthu neu gyflenwi’r alcohol;
(c) ystyr “person perthnasol”, mewn perthynas ag eiddo lle y mae trwydded eiddo mewn grym, yw—
(i) deiliad y drwydded eiddo,
(ii) goruchwylydd dynodedig y safle (os oes un) mewn perthynas â thrwydded o’r fath, neu
(iii) deiliad trwydded bersonol sy’n cyflenwi alcohol o dan drwydded o’r fath neu sy’n caniatáu iddo gael ei gyflenwi
(d) ystyr “person perthnasol’, mewn perthynas ag eiddo lle y mae tystysgrif safle clwb mewn grym, yw unrhyw un o aelodau neu swyddogion y clwb sy’n bresennol ar y safle mewn rôl sy’n galluogi’r aelod neu’r swyddog i atal y cyflenwad o dan sylw; ac
(e) ystyr “treth ar werth” yw treth ar werth sy’n daladwy yn unol â Deddf Treth ar Werth 1994.
3. Os nad yw’r pris a ganiateir a roddir gan Baragraff (b) o baragraff 2 (ar wahân i’r paragraff hwn) yn rhif cyfan o geiniogau, rhaid cymryd mai’r pris a roddir gan yr is-baragraff hwnnw yw’r pris a roddir mewn gwirionedd gan yr is-baragraff hwnnw wedi’i dalgrynnu i fyny i’r geiniog agosaf.
4. (1) Mae is-baragraff (2) yn gymwys os yw’r pris a ganiateir gan Baragraff (b) o baragraff 2 ar y naill ddiwrnod (“y diwrnod cyntaf”) yn wahanol i’r pris a ganiateir ar y diwrnod nesaf (“yr ail ddiwrnod”) o ganlyniad i newid i gyfradd y dreth neu’r dreth ar werth.
(2) Mae’r pris a ganiateir sy’n gymwys ar y diwrnod cyntaf yn gymwys i werthiant neu gyflenwad alcohol sy’n digwydd cyn i’r cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau ar yr ail ddiwrnod ddod i ben.