Gwybodaeth Ategol
Eithriadau
Ym mis Mawrth 2010 gwnaeth yr Ysgrifennydd Gwladol eithriad sy'n golygu nad yw'r rheoliadau penodol yn berthnasol i rai llongau.
MCA letter of exemption.
Categorïau cychod
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn cyflwyno trwyddedau i gychod yn y ddau gategori canlynol:
Categori 1:
Cychod bychain gan gynnwys fflôt glan y mor, pedalo, canŵ, offer sgïo-dŵr, byrddau syrffio pŵer, llong hofran yr ydych chi’n ei gyrru, byrddau hwylio, cychod modur yr ydych chi’n eu gyrru, jetsgi ac offer para-esgyn a fydd ar gael i'w hurio gan fadwr trwyddedig neu beidio.
Categori 2:
Cychod bychain y mae badwr trwyddedig yn eu rheoli a fydd ar gael i'w hurio neu i'w gosod i'w hurio (e.e. ar gyfer pysgota neu dripiau twristiaeth).
Yn ychwanegol i hyn, caiff y Cyngor ganllawiau gan y Cod Chychod Teithwyr Bychan Dŵr Mewndirol a gynhyrchwyd gan Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau a Sefydliad Awdurdodau Mordwyo Mewndirol. Awgrymir y dylai ymgeiswyr ddefnyddio’r ddogfen hon ar gyfer unrhyw ganllawiau ychwanegol all fod eu hangen arnynt.
Yswiriant
Awgrymir yn gryf y dylai perchennog/asiant rheoli llong sefydlu polisi yswiriant ar gyfer pob person sydd ynghlwm wrth weithrediad y llong o bryd i'w gilydd. Rhaid i yswiriant o’r fath gynnwys amodau sy'n rhesymol ar gyfer hawliadau all godi.
Wrth gyflwyno cais, bydd gofyn i'r Cyngor weld tystiolaeth o yswiriant atebolrwydd cyhoeddus dilys sydd o leiaf £2 filiwn.
Rhaid arddangos copi o’r tystysgrif yswiriant neu rhaid iddi fod ar gael i'w archwilio gan bobl sydd ar y llong.
Mae’r Cyngor hefyd yn argymell yswiriant trydydd parti, fodd bynnag bydd hyn yn destun barn y perchennog/asiant rheoli.