Y Broses Ymgeisio
Cynghorir ymgeiswyr i wneud cais o leiaf 10 wythnos cyn y dyddiad pryd y bwriadant weithredu neu cyn i’w trwydded ddod i ben.
Gofynnir i ddeiliaid trwyddedau sefydliadau marchogaeth nodi na ellir adnewyddu trwydded ar ôl iddi ddod i ben, ac felly ni ellir ôl-ddyddio trwydded lle mae'r Cyngor wedi methu â phenderfynu ar gais. Mae modd cymryd camau gorfodi yn erbyn deiliaid trwyddedau am weithredu am gyfnod heb drwydded, ac os nad oes ganddynt drwydded mewn grym dyma eu hatgoffa y gallai hynny effeithio ar eu polisi yswiriant.
I wneud cais am drwydded i Sefydliad Marchogaeth, mae'n rhaid i ymgeiswyr gwblhau a chyflwyno ffurflen gais a'r ffi berthnasol.
Yn ogystal, rhaid i ddeiliad y drwydded / deiliad y drwydded arfaethedig ddangos polisi yswiriant cyfredol. Dylai'r polisi ddarparu yswiriant yn erbyn atebolrwydd am unrhyw anaf i unigolion sy’n llogi ceffyl ar gyfer marchogaeth, neu anaf i rai sy'n talu am ddefnyddio ceffyl ar gyfer cyfarwyddyd ac sy’n digwydd yn sgil llogi neu ddefnyddio'r ceffyl. Dylai'r polisi hefyd yswirio’r unigolion hynny o ran unrhyw atebolrwydd a achosant mewn perthynas ag anaf i unrhyw un oherwydd, neu’n deillio o logi neu ddefnyddio ceffyl.
Rhaid cynnwys unrhyw dystysgrifau a fo gan y person sydd â rheolaeth uniongyrchol dros y sefydliad, fel y nodir hynny yn y cais.
Bydd Bro Morgannwg yn trefnu i filfeddyg/ymarferydd gydag awdurdod archwilio eich sefydliad a pharatoi adroddiad ysgrifenedig y bydd y Cyngor wedyn yn ei ddefnyddio i benderfynu ar eich cais.
Gall Cyngor Bro Morgannwg hefyd drefnu i un o swyddogion y Gwasanaeth Tân ac Achub archwilio'r eiddo.
Wrth benderfynu ar gais am Drwydded Sefydliad Marchogaeth, bydd Cyngor Bro Morgannwg yn ystyried a yw:
- Ymgeisydd yn addas ac yn gymwys naill ai o ran cymwysterau neu brofiad, neu a yw’r ymgeisydd yn cyflogi unigolyn cymwys o’r fath i reoli'r sefydliad
- Ceffylau mewn cyflwr da ac yn cael eu cadw mewn iechyd a ffitrwydd da
- Ceffylau a gedwir i bwrpas eu hurio i eraill eu marchogaeth neu a gedwir i bwrpas darparu hyfforddiant marchogaeth, yn addas ar gyfer y diben hwn
- Traed y ceffylau yn cael eu trin yn briodol ac, os oes arnynt bedolau, a ydynt wedi eu gosod yn gywir ac mewn cyflwr da
- Ac a oes llety addas ar gael bob amser, o ran y gwaith adeiladu, maint yr adeilad, a nifer y ceffylau, goleuo, awyru, glendid, a draenio
- Ceffylau yn derbyn cyflenwad digonol o fwyd, diod a gwasarn ac yn cael eu hymarfer yn rheolaidd, eu gwastrodi, yn cael gorffwys ac yn cael eu gweld yn rheolaidd ac addas
- Ceffylau sydd allan yn y caeau yn cael digon o borfa, cysgod a dŵr ac yn derbyn porthiant atodol yn ôl y gofyn
- Pob rhagofal rhesymol ar waith i atal / rheoli lledaeniad clefydau heintus neu gyffwrdd-ymledol
- Offer cymorth cyntaf milfeddygol a meddyginiaeth ar gael ac yn cael eu cynnal ar y safle
- Camau priodol yn mynd i gael eu cymryd i amddiffyn yr anifeiliaid pe digwyddai tân neu argyfwng arall
- Lle digonol yn cael ei ddarparu ar gyfer porthiant, gwasarn ac offer stabl a chyfrwyau
- Ac a oes hysbysiad yn cael ei arddangos mewn man amlwg ar y tu allan i'r eiddo ac arno enw, cyfeiriad a rhif ffôn deiliad y drwydded neu berson rhesymol arall, ochr yn ochr â chyfarwyddiadau ynghylch camau a gymerir pe digwyddai tân ac o ran symud y ceffylau allan.